Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch yn fawr. Nawr, mi ddywedoch chi yn ddiweddar, ac rydw i'n siŵr eich bod chi wedi rhagweld y byddai rhywun yn codi hyn—ond mi ddywedoch chi fod angen mwy o bwyslais ar ddysgu gydol oes, ac nad yw hynny yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. A allwch chi fod yn glir gyda ni, onid eich bai chi yw hynny, oherwydd chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes o fewn y Llywodraeth yma?