Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 17 Hydref 2018.
Tan ein bod ni'n glir beth y mae'r trafodaethau yn mynd i'w benderfynu, mae'n anodd iawn inni benderfynu beth ddylai fod yn y gyllideb, ond a gaf i fod yn glir gyda chi ein bod ni'n ymwybodol o'r sefyllfa? Mae Ysgrifennydd y gyllideb yn ymwybodol y bydd hwn, efallai, yn fater y bydd yn rhaid edrych arno. Felly, rydw i'n meddwl bod rhaid tanlinellu'r ffaith, wrth gwrs, ein bod ni'n trio delio â'r materion hyn tra ydym ni dal yn ceisio trafod ac wynebu austerity. Mae hynny wedi creu problem, wrth gwrs. Felly, mae'n gwestiwn anodd inni i wneud y penderfyniadau hyn, ond mae eisiau ichi fod yn hollol glir ein bod ni'n ymwybodol o'r sefyllfa, a bod yr Ysgrifennydd cyllid hefyd yn ymwybodol o'r sefyllfa.