Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:41, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth amser yn ôl, gofynnais i chi a oeddech yn credu y byddai ymadael â'r UE yn arwain at unrhyw fanteision i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ac fe ddywedoch nad oeddech. Mewn erthygl gan y BBC yn gynharach y mis hwn, tynnwyd sylw at y ffaith bod ein colegau'n gweld bod cyfleoedd i'w cael ar gyfer addysg bellach ac uwch i'r rheini sy'n mynd i'r drafferth o edrych amdanynt. A yw'r erthygl honno yn gynharach y mis hwn, lle nododd y BBC fod pennaeth coleg Caerdydd wedi dweud bod Brexit yn arwain at hwb enfawr o £3 miliwn gan fyfyrwyr o Tsieina, yn dangos eich bod yn anghywir neu ai pennaeth y coleg sy'n anghywir?