Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 17 Hydref 2018.
Rwy'n falch iawn fod Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i archwilio cyfleoedd newydd. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn bwysig iawn i'n sefydliadau AB ac AU, a hoffwn anfon neges glir iawn i fyfyrwyr ledled y byd y gallant fod yn sicr o brofiad cadarnhaol iawn wrth ddod i astudio yng Nghymru. Pe bawn i ond yn gallu darbwyllo'r Swyddfa Gartref i beidio â chynnwys eu niferoedd yn ein ffigurau mewnfudo, efallai y gallem gael mwy ohonynt eto.