Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 17 Hydref 2018.
A gaf i ddiolch yn fawr, Llyr, am y cwestiwn? Byddwch chi'n ymwybodol bod cyflogau athrawon yn cael eu penderfynu ar hyn o bryd gan y Llywodraeth yn San Steffan, a byddwn yn derbyn consequential er mwyn talu ar gyfer hynny. Nid yw hynny'n digwydd pan fo'n dod i addysg bellach.
O ran beth sy'n digwydd ar hyn o bryd, rŷm ni'n monitro'r sefyllfa, wrth gwrs, gyda beth sy'n digwydd yn y negodi rhwng yr undebau a ColegauCymru, a gadewch inni fod yn glir mai nhw sydd yn gyfrifol am benderfynu beth yw'r cyflogau. Ond, o ran egwyddor, rydw i'n meddwl y byddai hi'n gwneud synnwyr bod rhywun sy'n dysgu ffiseg mewn ysgol i'r chweched dosbarth efallai yn haeddu'r un math o gyflog â phobl sydd yn dysgu mewn coleg chweched dosbarth.