Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:48, 17 Hydref 2018

Diolch ichi am yr eglurdeb yna, ac am dderbyn yr egwyddor, achos mae hi'n neges bwysig, rydw i'n meddwl, y mae'r sector eisiau ei chlywed. Wrth gwrs, yn ôl ColegauCymru, mae'n debyg y bydd angen £10 miliwn i dalu am godiad cyflog ar gyfer staff addysg bellach er mwyn cynnig codiad cymesur ar eu cyfer nhw.

O fod yn ymwybodol o sefyllfa gyllido'r sector fel y mae hi ar hyn o bryd, mae'n debyg y byddai gofyn i Lywodraeth Cymru gwrdd â'r gost, neu o leiaf peth o'r gost yna, felly a gaf i ofyn, gan eich bod chi'n gwybod bod yna anghydfod ar hyn o bryd, gan eich bod chi'n gwybod mai'r tebygolrwydd yw y bydd gofyn i'r Llywodraeth gyfrannu at y gost ychwanegol yna petai hi'n codi, a hefyd gan eich bod chi'n gwybod bod cyllideb y Llywodraeth yma yn y broses o gael ei chwblhau, pa drafodaethau ŷch chi wedi'u cael â'r Gweinidog neu'r Ysgrifennydd cyllid i ddadlau dros gefnogaeth ychwanegol i sicrhau cyflogau tecach ar gyfer y rheini yn y sector?