Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch, Mr Reckless. Rwyf wedi dweud yn glir iawn, ar ôl datganoli'r pwerau hyn, na fydd athrawon yng Nghymru dan anfantais o gymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr. Oherwydd natur barhaus cyni, mae'r cyfleoedd ar gyfer cyflog yn gyfyngedig ar hyn o bryd, ond credaf fod rhai cyfleoedd cyffrous iawn i'w cael mewn perthynas â mater amodau. Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod am yr adroddiad a gyhoeddwyd y mis diwethaf gan yr Athro Mick Waters, sy'n rhoi rhai awgrymiadau diddorol imi ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio'r pwerau newydd hyn. Mae'n ddarn diddorol o waith, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad hwnnw.