Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 1992, ac rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i weithio gyda'r timau uwch reoli mwyaf rhagorol. Yn yr adolygiad annibynnol sydd wedi rhoi cyngor ichi ynglŷn â sut y gellir defnyddio'r pwerau hyn, rwy'n sylwi y gallai'r ffordd y caiff penaethiaid eu cyflogi newid yn sylweddol, fel eu bod yn cael eu cyflogi ar sail ranbarthol a chenedlaethol. Nawr, tybed sut y gallai hynny weithio. Ai'r syniad wrth wraidd hynny yw gwella'r ysgolion sy'n cyflawni ar lefel y credwn fod angen ei gwella, er mwyn sicrhau eu bod yn dod cystal â'r goreuon, a'ch bod yn rhoi timau uwch reoli newydd ynddynt i sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd?