Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 17 Hydref 2018.
Mae'n anffodus, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda hwy, er eich bod yn nodi eich bod wedi cael rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â'u cyfrifoldebau. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'r cyffur hwn ar gael ar gyfer dioddefwyr ffeibrosis systig a deallaf nad yw ar gael yma yng Nghymru yn anffodus. Pam fod cyn lleied o gynnydd wedi’i wneud ar sicrhau bod y cyffur ar gael yma yng Nghymru? Deallaf fod adrannau iechyd eraill wedi gwneud trefniadau gyda'r cwmni fferyllol i sicrhau y bydd ar gael. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r cwmni fferyllol i sicrhau bod y cyffur hwn ar gael yma yng Nghymru, oherwydd mae’r manteision wedi'u profi ac yn glir i ddioddefwyr ffeibrosis systig? Yn anffodus, mae ffeibrosis systig yn gyflwr gydol oes: nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd i chi wrth i chi fynd ar eich taith drwy fywyd, ac felly, y gorau yw’r driniaeth y gallwn ei chynnig, yr hiraf a’r gorau fydd ansawdd bywyd yr unigolyn. Felly, rwy'n gofyn i chi: os gwelwch yn dda, a wnewch chi, fel Gweinidog ac fel adran, ymrwymo i weithredu'n gadarnhaol er mwyn sicrhau bod y cyffur hwn ar gael yma yng Nghymru?