Orkambi

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:37, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Byddai, ac mae hynny'n eithaf defnyddiol, oherwydd, er fy mod yn rhwystredig nad ydynt wedi dilyn y broses yn ystyrlon, pe baent yn gwneud hynny, dyma yw union ddiben y gronfa triniaethau newydd. Felly, pan fydd triniaethau newydd yn dod ar gael ar ôl eu cymeradwyo gan NICE—hynny yw, eu bod wedi'u profi'n effeithiol ac yn ddiogel ac yn gosteffeithiol—yn aml mae'n her i sicrhau bod y cyffuriau hynny'n cael eu cynnwys yn ein system mewn ffordd deg. Dyna yw union ddiben y gronfa triniaethau newydd, a gallaf ddweud y byddai'n gymwys i gael cymorth o fewn y gronfa triniaethau newydd er mwyn sicrhau ei fod ar gael ar sail gyflym a chyson. Ac fel y gwyddom, mae hynny'n golygu bod meddyginiaethau effeithiol sydd â sylfaen dystiolaeth y tu cefn iddynt ar gael yn gynt yma yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, ac rwy'n falch iawn o hynny.