Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 17 Hydref 2018.
Os yw'n wir nad yw pobl yn cael eu hysbysu, credaf mai dyna pam fod pobl yn codi'r mater yma, er mwyn iddynt gael y wybodaeth gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono yma. O siarad â Vertex, rwy'n deall bod rhywfaint o rwystredigaeth wedi bod wrth ymdrin â chaffael meddygol ar sail Cymru gyfan, a arweiniodd at oedi sylweddol yn y broses hon. Mae'n bosibl mai un digwyddiad ydoedd—ac rwy'n gobeithio mai dyna ydoedd—ond mae'n rhywbeth y dylid edrych arno mewn perthynas â'r achos penodol hwn. A gaf fi ofyn i chi, a oes unrhyw gynlluniau i ddiwygio prosesau i ganiatáu asesiadau o bortffolio o feddyginiaethau, gan ddangos yr hyblygrwydd sydd ei angen ar gyfer y mathau hyn o feddyginiaethau at glefydau prin? Nawr, rydym wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen gyda Kalydeco, ac roedd gennym safbwynt gwahanol i'r Gweinidog ar y pryd. Byddai portffolio o fathau o feddyginiaethau at glefydau prin yn rhywbeth y gellid ei groesawu i chi edrych arno o leiaf, ac rwy'n siŵr nad Vertex yn unig fyddai'n croesawu hynny, ond ninnau hefyd fel cynrychiolwyr a etholwyd yn uniongyrchol.