Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:42, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Athro McClelland wedi edrych ar y GIG yng Nghymru a'r ffordd y mae'n cael ei redeg yn fwy manwl nag unrhyw un arall, mwy na thebyg, ac un o'i phryderon yw bod eich Llywodraeth yn cael trafferth wrth geisio cael y byrddau iechyd i wneud yr hyn rydych eisiau iddynt ei wneud.

Nawr, yn y gyllideb ddiweddaraf, mae eich Llywodraeth wedi dewis rhoi dros £500 miliwn yn ychwanegol i iechyd a gofal cymdeithasol—newyddion gwych ar yr wyneb; mae pawb ohonom eisiau gweld buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Ond gyda digon o angen mewn meysydd eraill ac adrannau eraill, cyrff cyhoeddus eraill, yn wynebu toriadau, pwy a allai weld bai arnynt am ofyn, 'Ai buddsoddiad yw hwn mewn gwirionedd neu achub croen?' Felly, yng ngoleuni pryderon Siobhan McClelland, a oes gennych reolaeth dros yr hyn a fydd yn digwydd i'r £500 miliwn hwnnw neu a fydd yn diflannu i dwll du camreoli ariannol?