Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:43, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf y dylai llefarydd Plaid Cymru fod yn ofalus sut y mae'n nodi ei safbwyntiau. Mae'n swnio bron fel pe bai'n gwahodd y Llywodraeth i dorri'r gyllideb iechyd. Mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cyflawni ein cynllun gwella ar y cyd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cymryd cryn dipyn—[Torri ar draws.] Mae wedi cymryd cryn dipyn o waith i greu cynllun ar y cyd y mae iechyd, tai, llywodraeth leol a'r trydydd sector yn cytuno arno. Bydd angen edrych bob amser ar effeithlonrwydd a disgyblaeth ariannol o fewn y gwasanaeth. Os edrychwch ar hynny, mae gwelliant gwirioneddol wedi bod dros y tair blynedd diwethaf mewn gwirionedd, a llawer mwy i'w wneud. Ni fydd y gwasanaeth iechyd byth yn gwbl berffaith—bydd lle bob amser i gamgymeriadau a gwelliant, yn ogystal â llwyddiant sylweddol. Rwy'n falch ein bod yn deall fod yna heriau gwirioneddol, ac nad ydym yn hunanfodlon ynglŷn â rheoli a goresgyn y rheini.