Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 17 Hydref 2018.
Ymateb braidd yn ysgafn, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran dweud fy mod yn gwahodd toriadau mewn cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol. Fy nghwestiwn yw: a oes gennych reolaeth ar beth sy'n digwydd i'r cynnydd hwnnw, cynnydd rwy'n ei groesawu, os yw'n gynnydd gwirioneddol, os yw'n fuddsoddiad? Nawr, y perygl, wrth gwrs, yw mai cronfa ar gyfer datrys problemau wrth iddynt godi yw hi. Rydym wedi gweld hynny dro ar ôl tro—£100 miliwn yma, £200 miliwn acw, er mwyn llenwi bylchau. Pan fo gennych gronfa ar gyfer datrys problemau wrth iddynt godi, mae gennych £500 miliwn na fydd yn mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi cronig ym maes gofal sylfaenol, er enghraifft. Ni fydd yn ffurfio rhan o'r gwaith o greu cynaliadwyedd hirdymor. Felly, gadewch i mi eich gwahodd i ledaenu'r buddsoddiad hwn a gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad yn gweithio. Rydych yn dweud ei fod ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal ag iechyd, ond wrth edrych ar ble mewn iechyd y dylid rhoi'r arian hwnnw, os oes gennych reolaeth ar bethau, a wnewch chi ymrwymo i gyfarwyddo'r byrddau iechyd i roi, dyweder, hanner yr arian tuag at ofal sylfaenol fel y gallwn ddechrau adeiladu gwasanaeth cynaliadwy o'r diwedd?