Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 17 Hydref 2018.
Pwrpas y cynnig heddiw, a gyflwynwyd gennyf fi, Vikki Howells, Jenny Rathbone, Hefin David, Adam Price a David Melding, yw edrych eto ar bwysigrwydd canolog y sector hwn a ddiystyrwyd yn ein heconomi. O gofio’r ymrwymiad trawsbleidiol i’r cynnig hwn, mae'n amlwg fod yna awydd am ddull newydd o weithredu.
Yn ddiweddar, gyda fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, ymwelais â Preston i ddysgu mwy am eu dull hwy o weithredu'r hyn y maent yn ei alw'n 'adeiladu cyfoeth cymunedol'. Ers yr argyfwng ariannol, a methiant canolfan siopa fawreddog newydd yr oeddent yn dibynnu arni i roi hwb i Preston, ac yn wyneb cyni parhaus, gorfodwyd y cyngor i ailystyried eu hymagwedd tuag at ddatblygu economaidd. Nawr, mae eu diffiniad o sefydliad angori yn gwbl wahanol i’n diffiniad ni. Maent yn defnyddio’r term i ddisgrifio sefydliadau sydd wedi’u gwreiddio’n lleol a'u lleoli'n gadarn—y brifysgol leol, y coleg addysg bellach, y coleg chweched dosbarth, y cyngor sir, y gymdeithas dai leol a'r heddlu. Gyda'i gilydd roedd yr angorau hyn yn gwario £750 miliwn y flwyddyn ar brynu nwyddau a gwasanaethau, ond 5 y cant ohono'n unig a werid yn Preston, a llai na 40 y cant yn ardal ehangach Swydd Gaerhirfryn. Felly, roedd tua £458 miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei golli o economi Swydd Gaerhirfryn bob blwyddyn.
O ganlyniad i’w dull newydd o harneisio eu heconomi sylfaenol, mae'r sefydliadau angori lleol hyn bellach yn defnyddio caffael i sicrhau’r gwerth cymdeithasol gorau yn lleol. Drwy archwilio'r 300 contract mwyaf gwerthfawr a oedd gan bob un, maent wedi gallu ailgyfeirio gwariant i gwmnïau lleol heb effeithio ar gost nac ansawdd. Mae hwnnw'n bwynt hollbwysig. Bellach, cedwir 17 y cant o wariant y sefydliadau angori lleol o fewn Preston—o 5 y cant i 17 y cant—a 79 y cant yn economi ehangach Swydd Gaerhirfryn, i fyny o 39 y cant.
Mae hyn wedi cael effaith amlwg yn Preston. Dyma ardal a oedd unwaith ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Lloegr, ac mae bellach yn codi o'r dyfnderoedd. Tra bo cyflogau wedi aros heb symud yn y rhan fwyaf o'r DU ers dros ddegawd, maent yn codi yn Preston. Ac mae’r sefydliadau angori lleol wedi cyfrannu'n helaeth at hynny. Mae pump o’r chwe sefydliad bellach yn gyflogwyr cyflog byw achrededig.
Mae angen i ni wneud yr un peth—nodi pwy yw'r chwaraewyr mawr yn ein heconomïau lleol a gofyn iddynt wneud eu rhan. Mae’n rhaid i ni ei gwneud yn glir i'r holl sefydliadau hyn ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat y bydd adeiladu eu heconomïau lleol yn rhoi sylfaen gadarn a dyfodol sicr iddynt. I gymdeithasau tai, bydd eu rhenti’n cael eu talu; i’r gwasanaeth iechyd, bydd llai o alw a achosir gan dlodi ar wasanaethau; i’r heddlu, bydd achosion troseddau’n lleihau. Yng Nghymru, mae'r sector cyhoeddus yn gwario £5.5 biliwn bob blwyddyn yn prynu nwyddau a gwasanaethau i mewn, a gallem ddefnyddio’r arian hwnnw i hybu ein heconomi sylfaenol yn uniongyrchol.
Mae hyn yn golygu bod angen dull newydd o weithredu, dull sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd, fel y mae pwynt 3 ein cynnig yn ei nodi, yn cynnig cyfle sylweddol a fyddai’n caniatáu i ni fynd ymhellach na Preston hyd yn oed. Ond i wneud hynny mae angen i ni wneud newidiadau. Bydd angen grymuso ein sector cyhoeddus i gaffael mewn ffordd sy'n sicrhau llawer mwy na'r pris isaf. Bydd busnesau lleol angen mwy o gymorth i gyflawni ac ennill contractau sector cyhoeddus, ac mewn perthynas â llywodraeth leol, bydd angen i ni fuddsoddi mewn staff mwy medrus sy’n meddu ar sgiliau prynu arbenigol i ysgogi'r newid hwn yn ein dull o weithredu.
Ond rydym wedi argyhoeddi ein hunain fod y rhwystrau i wneud y pethau hyn yn uwch nag y maent mewn gwirionedd. Mae’r profiad yn Preston yn dangos nad yw rheolau caffael Ewropeaidd yn broblem mor fawr ag y credwn. Yn wir, dywedodd arweinydd y cyngor, Matthew Brown, a'i uwch swyddogion, wrth Jenny Rathbone a minnau fod y diwygiadau wedi bod yn llawer haws eu cyflawni nag y rhagwelwyd ganddynt yn wreiddiol. Felly mae pwynt 2 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Chyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.
Roeddent yn pwysleisio wrthym nad yw eu dull o weithredu yn un y dylid ei gymhwyso yn yr un modd ym mhobman. Mae gan leoedd gwahanol atebion gwahanol i broblemau gwahanol. Er enghraifft, yn Islington, lle mae gofod gwaith fforddiadwy’n brin, mae’r cyngor wedi buddsoddi mewn cynlluniau i ddod ag adeiladau yn ôl i ddwylo'r gymuned er mwyn caniatáu i ficrofusnesau a mentrau bach rentu ar gyfraddau is na chyfraddau'r farchnad. Dyna yw eu ffocws wedi bod. Ym Manceinion Fwyaf, mae’r gronfa bensiwn wedi darparu £50 miliwn o fenthyciadau a chyfalaf ecwiti i fentrau bach a chanolig. Dyna a nodwyd ganddynt fel eu prif broblem. Yn yr Alban, mae Highlands and Islands Enterprise wedi arwain ar ddatblygu asedau ynni cymunedol, gan ddarparu buddsoddiad mewn maes sy’n cael ei anwybyddu gan gynlluniau ariannu traddodiadol.
Nawr, yng Nghymru, mae gennym ninnau hefyd gnewyllyn dull gweithredu cynhwysfawr. Ceir arwyddion o agwedd newydd tuag at brynu. Mae adolygiad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynnig cyfle i symud oddi wrth y ffocws ar gontractau mawr am y pris isaf. Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn ein hymrwymo i gefnogi sectorau sylfaenol ac mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â'r hyn a olygwn, ac i ba raddau y mae'n golygu cael gwared ar yr hen ffyrdd o weithio. Ond mae’r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’i gynlluniau ar gyfer dull o weithredu sylfaenol trawsbynciol yn ystod ei ymddangosiad diweddaraf gerbron pwyllgor yr economi yn galonogol iawn, ac rwy’n gobeithio y cawn glywed rhagor heddiw.
Ond mae rhagor i'w wneud. Mae pwynt 4 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu amrywiaeth o wahanol fodelau o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull sylfaenol lleol. Yn rhy aml, mae pobl sy'n gweithio yn y sector ar gytundebau dim oriau a chyflogau isel, heb unrhyw obaith o gamu ymlaen yn eu gwaith. Mae cwmnïau mawr yn symud i'r sector ac yn gwneud elw sylweddol tra bo’r enillion yn brin iawn i ddefnyddwyr gofal a’r cyhoedd sy’n eu hariannu. Er ein bod wedi rhoi £1 miliwn tuag at archwilio dulliau sylfaenol o weithredu mewn gofal cymdeithasol, rydym yn rhoi symiau llawer mwy o arian i rai o gwmnïau mwyaf y byd i’w denu i symud yma neu i aros yma, ac mae angen i ni droi’r fantol, ym maes gofal cymdeithasol ac ar draws ein heconomi.
Yr hyn a ddysgais yn Preston, Ddirprwy Lywydd, yn anad dim arall, oedd bod eu llwyddiant yn deillio o weledigaeth ac arweinyddiaeth â ffocws. Mae wedi'i wreiddio yn niwylliant gweithio eu cwmnïau angori a thrwy ymdrech barhaus arweinwyr ymrwymedig. Gall ymagwedd sylfaenol tuag at yr economi fod yn weledigaeth i ni, a gall Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau. Mae realiti'r hyn y bydd Brexit yn ei olygu i'n heconomi yn golygu bod angen i ni wneud hyn ar frys. Diolch.