Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw i.
Nawr, mae'r holl ymchwiliadau a wnawn fel pwyllgor yn ddiddorol yn eu ffordd eu hunain, ond o'r holl ymchwiliadau a wnaethom yn y pwyllgor ers i mi fod yn Gadeirydd ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, rhaid imi ddweud mai hwn yw'r un lle cefais fy llygaid wedi'u hagor fwyaf—sef y gwaith sy'n ymwneud ag awtomatiaeth. Clywsom rai o'r tystion yn dweud wrthym am ymchwil sy'n dangos bod degau o filoedd o swyddi'n mynd i gael eu colli o ganlyniad i awtomatiaeth, a chlywsom hefyd am astudiaeth sy'n dangos bod degau o filoedd o swyddi'n mynd i gael eu creu o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, rwy'n credu fy mod yn rhywun sy'n optimistaidd o ran ei natur, felly rwy'n croesawu'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, ond fe ddysgasom un peth pendant o'n gwaith—sef bod Llywodraeth sy'n methu paratoi ar gyfer awtomatiaeth yn paratoi i fethu. Wrth gwrs, nid her i Lywodraeth yn unig yw hon; mae'n her i fusnes a darparwyr gwasanaethau ar draws y wlad. Mae awtomatiaeth yn dod ac mae angen i bawb ohonom feddwl beth y mae hynny'n ei olygu i ni.
Cefais fy siomi gan agweddau ar ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, a allai ymddangos braidd yn rhyfedd gan i'r Llywodraeth dderbyn 11 o'r 12 o argymhellion. Roeddwn yn falch o nodi na dderbyniwyd unrhyw argymhellion mewn egwyddor, ac un yn unig a wrthodwyd. Ond fel pwyllgor, rydym yn glir mai ein nod a'n pwrpas yw sbarduno newid. Bwriedir i'n hargymhellion newid a gwella polisi Llywodraeth. Felly, pan gaiff ein hargymhellion eu derbyn, ond bod y testun cysylltiedig yn ei gwneud yn glir nad yw ein pryderon yn newid ymddygiad, yna rwy'n bryderus.
Mae argymhelliad 1 yn enghraifft o hyn: mae'r pwyllgor yn galw am waith
'i sicrhau bod Cymru yn darparu technolegau sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â’u defnyddio.'
Ond mae'r ymateb yn rhestru'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, ac mae'n sôn am y gwaith sydd eisoes ar y gweill gan yr Athro Phil Brown. Nid yw'n glir ein bod yn cytuno yma, felly efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i hynny yn ei sylwadau cloi. A bod yn deg, efallai fod adolygiad Brown yn ymdrin â'r materion sy'n codi, a byddaf yn aros yn eiddgar iddo gael ei gyhoeddi i weld pa argymhellion y mae'n eu gwneud. Rwy'n weddol siŵr nad gwaith yr Athro Brown fydd diwedd y gân o ran y gwaith sydd angen ei wneud, a gobeithio bod y Llywodraeth yn barod i ymateb i unrhyw fylchau neu'r camau nesaf y mae'n eu nodi.
Mae argymhelliad 11 yn dilyn patrwm tebyg o dderbyn heb weithredu o'r newydd. Mae'r argymhelliad yn glir ein bod am weld mwy o ymchwilwyr ar y lefel uchaf yn gwneud eu gwaith yma yng Nghymru ac yn cadw'r sgiliau hynny ar gyfer economi Cymru. Mae'r goblygiadau ariannol a restrir yn ymateb y Llywodraeth yn dweud y byddai costau ychwanegol
'Pe baem yn lansio cronfa' ond nid fel arall. Wel, am hynny y mae'r argymhelliad yn galw, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, gobeithio bod y cylch cyllidebol cyfredol yn rhoi gallu i chi wneud hynny.
Fe edrychaf ar argymhelliad 4, sef yr unig un a wrthodwyd. Daeth yr argymhelliad o awgrym gan yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd y gallai fod manteision gwirioneddol i Gymru o greu model cymunedol i brofi technolegau sy'n dod i'r amlwg yng nghyd-destun Cymru. Roedd yn syniad a gafodd dderbyniad brwd gan eraill y siaradasom â hwy yn ystod yr ymchwiliad, ac mae ymateb y Llywodraeth yn dweud ei bod yn gweithio ar nifer o gynigion yn hytrach nag un lleoliad penodol. Nawr, mae gennyf gydymdeimlad â'r syniad y gallai fod manteision i gynnal profion mewn nifer o leoliadau yn hytrach nag un gymuned unigol. Nid pa un a oes un safle neu 10 o safleoedd yw'r peth pwysicaf; yr hyn sy'n bwysig yw bod yna safleoedd yng Nghymru sy'n caniatáu i dechnoleg arloesol gael ei phrofi a'i datblygu i weddu i anghenion Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd modd mynd ar drywydd y cyfleoedd hyn. Ni fyddwn yn cael ail gyfle i fod yn flaenllaw yn y technolegau newydd hyn.
Rwy'n falch fod argymhelliad 12 wedi gweld gweithredu ar unwaith. Roedd hi'n eithaf rhyfedd clywed mai dim ond un o'r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol a oedd wedi nodi awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn eu cynlluniau ar gyfer gofynion y dyfodol, felly edrychaf ymlaen at weld ffrwyth llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn hynny o beth.
Bwriad y pwyllgor oedd i'r adroddiad hwn fod yn ddechrau yn hytrach na diwedd ar y drafodaeth, ac ni allai fod mwy yn y fantol, ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn sylwadau'r Aelodau y prynhawn yma ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig o ran—. Efallai y gallai amlinellu rhai o'r sylwadau a wneuthum ar yr argymhellion a gyflwynais ac a drafodais heddiw mewn rhagor o fanylder.