Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 17 Hydref 2018.
Fel y mae'r siaradwyr blaenorol wedi nodi, nid yn unig ein bod yn gweld newidiadau dirfodol i economi Cymru wrth i'r economi wynebu newidiadau—rhai da, rhai drwg—felly hefyd ym myd gwaith. Bydd y swyddi yn y dyfodol yn perthyn nid yn unig i oes arall o gymharu â swyddi'r gorffennol, o ran eu cyfleoedd, eu heriau a'u gofynion byddant hefyd yn perthyn i fyd arall.
Rwyf wedi mwynhau cyfrannu at yr ymchwiliad hwn, sydd, fel y mae'r Cadeirydd wedi ein hatgoffa, i fod yn ddechrau ar sgwrs ynglŷn â sut y gallwn lywio'r dyfodol hwnnw, ac er bod yr ymadrodd wedi tyfu'n ystrydeb braidd, sut y gallwn sicrhau ei fod yn canolbwyntio'n briodol ar bobl. Mae hyn yn allweddol i'n nawfed argymhelliad, sy'n herio Llywodraeth Cymru i roi ailhyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr wrth wraidd ei pholisi dysgu gydol oes. Roedd y tystion a siaradodd â ni yn eglur yn eu tystiolaeth mai gweithwyr heb lawer o sgiliau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial.
Ond mae menywod yn wynebu risg arbennig yn y tymor byr, er enghraifft yn y sector manwerthu, lle rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o'r til hunanwasanaeth. Gyda llaw, mae ymchwil newydd yn dangos bod cyflenwadau o diliau hunanwasanaeth wedi parhau i gynyddu, gyda'r niferoedd 14 y cant yn uwch am yr ail flwyddyn yn olynol. At hynny, mae gennym dasg i'w gwneud o hyd yn nodi sgiliau'r dyfodol ar gyfer edrych ar y galw a'r mathau o swyddi a allai fod eu hangen mewn unrhyw ardal benodol. Bydd rhan allweddol gan fyrddau sgiliau rhanbarthol i'w chwarae yn hyn o beth.
At hynny, mae angen inni ddatblygu system drionglog o gyfnewid rhwng cyflogwyr, addysg uwch ac addysg bellach fel yr awgrymodd yr Athro Richard Davies yn ei dystiolaeth i ni. Hefyd mae angen inni ddeall sut y gallwn ymgysylltu â'r grwpiau mwyaf anodd eu cyrraedd, sydd fwyaf o angen uwchsgilio efallai, a chredaf fod rôl allweddol i'w chwarae yma ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned, yn enwedig yng ngallu'r sector hwnnw i gynnwys a datblygu cysylltiadau cymunedol. Gan fod yr argymhelliad hwn yn allweddol, caf fy nghalonogi gan y ffaith bod y Gweinidogion wedi'i dderbyn, a hefyd eu bod wedi dechrau rhoi camau ar waith i ateb yr her hon. Rhaid i ddysgu gydol oes olygu hynny. Dylem annog diwylliant sy'n cydnabod hyn ac yn cynnig yr adnoddau a'r cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen, felly edrychaf ymlaen at lansio peilot y cyfrif dysgu personol y flwyddyn nesaf.
Dylai datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ei gwneud yn haws hefyd i Gymru gyflawni argymhelliad 1. Mae hwn yn cydnabod bod angen inni sicrhau bod ein heconomi yn cynhyrchu cymaint ag y mae'n ei ddefnyddio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Ar ei fwyaf uchelgeisiol, efallai y gellid adfer ein henw da am fod yn weithdy'r byd. Roedd tystiolaeth gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Athro Calvin Jones yn nodi ffyrdd y gallem wneud hyn. Mae gan ein prifysgolion ran allweddol i'w chwarae yma, a chefais fy synnu, ar ein hymweliad â Phrifysgol Abertawe, wrth weld sut y mae'r sefydliad hwnnw'n ymateb i awtomatiaeth. Mae ei adran beirianneg wedi treblu yn ei maint ac mae ei adran gyfrifiadureg yn profi twf tebyg. Rhaid i hyn hefyd fod yn amcan allweddol i raglen y dinas-ranbarth, gan ein galluogi i fabwysiadu dull rhanbarthol o weithredu'r economi.
Yn y trafodaethau a arweiniodd at argymhelliad 6, dull 'gwnaed yng Nghymru' o gyflawni amaethyddiaeth fanwl, cawsom dystiolaeth ar y ffyrdd y gallai hyn fod o fudd i ffermydd bach. Mae gwir angen hyn arnom. Gwyddom mai 48 hectar yn unig yw maint cyfartalog ffermydd Cymru, ac mae 54 y cant o ffermydd Cymru yn llai nag 20 hectar o faint. Fodd bynnag, mae modd cymhwyso ei fanteision hyd yn oed yn ehangach na hyn.
Cyfarfûm yn ddiweddar â chwmni o'r enw CEA Research and Development. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r cysyniad, ystyr 'CEA' yw 'amaethyddiaeth rheoli amgylchedd', sef math o hydroponeg sy'n tyfu cnydau mewn amgylchedd artiffisial a reolir. Mae gan CEA Research and Development uchelgeisiau, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Ffermio Fertigol, i agor cyfleuster ymchwil a datblygu newydd i wneud gwaith ymchwil a datblygu ar systemau artiffisial ar gyfer y diwydiant amaethyddiaeth rheoli amgylchedd yn fy etholaeth. Ceir nifer o fanteision i amaethyddiaeth rheoli amgylchedd: dim angen plaladdwyr, gwell defnydd o dir, defnyddio llai o ddŵr, llai o filltiroedd bwyd, ac wrth gwrs, gallu i wrthsefyll yr hyn a all fod yn dywydd anwadal iawn yng Nghymru. Yn wir, gellid cael gwared ar fethiant cnydau a gwastraff, a gallai hyd yr amser o hadau i gynnyrch fod ychydig o dan chwarter yr amser y mae'n ei gymryd i amaethyddiaeth draddodiadol. Dywedodd CEA Research and Development fod Cymru'n lleoliad perffaith ar gyfer hyn o ran mynediad at adnoddau ffisegol, a lawn mor bwysig, at gyfleusterau academaidd o'r radd flaenaf. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i hyn fel rhan o gyfres o gamau gweithredu y mae'n eu hamlinellu yn ei hymateb i'r argymhelliad, ac edrychaf ymlaen at ailedrych ar agweddau ar y pwnc hollbwysig hwn yn ddiweddarach yn y tymor.