6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diwydiant 4.0 — Dyfodol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:28, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gyfeirio'n ôl at y ddadl flaenorol am eiliad, Ddirprwy Lywydd? Er fy mod yn cytuno'n llwyr â'r holl deimladau a fynegwyd mor huawdl gan Lee Waters, ac yn wir gan yr holl gyfranwyr eraill, rhaid inni beidio ag anghofio mai drwy economi gref ddiwydiannol yng Nghymru yn unig y gellir darparu'r arian sector cyhoeddus a fydd yn sail i'r economi sylfaenol, sy'n fy arwain at fy nghyfraniad i'r ddadl bresennol.

Mae dyfodol diwydiant yng Nghymru ar groesffordd, a bydd y penderfyniadau a wnawn yn awr yn newid economi Cymru'n sylweddol er gwell neu er gwaeth. A ydym yn croesawu'r technolegau newydd, megis deallusrwydd artiffisial, ac o bosibl yn elwa ar y budd ariannol? Neu a ydym mewn perygl o lusgo ar ôl y gwledydd sydd eisoes yn croesawu'r dechnoleg hon? Dyna pam y mae'n hollbwysig ein bod, yn ein safle o gyfrifoldeb, yn gosod y sylfeini i'r busnesau newydd hynny ffynnu, tra'n sicrhau bod gweithwyr a busnesau sefydledig yn cael y cymorth sydd ei angen i fanteisio ar y dechnoleg newydd hon, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yng Nghymru.

Un o ofnau mwyaf, a mwyaf dealladwy, pobl sy'n wynebu ymddangosiad technoleg newydd megis deallusrwydd artiffisial yw'r bygythiad o golli swyddi. Mae hyn yn arbennig o wir ymysg gweithwyr heb lawer o sgiliau. Mae Future Advocacy yn darogan fod y gyfran o swyddi mewn perygl mawr yn sgil awtomatiaeth erbyn y 2030au cynnar yn amrywio rhwng 22 y cant a dros 39 y cant. Mae David Hagendyk, cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, yn tynnu sylw at yr ofn hwn, gan ddweud mai ar weithwyr heb lawer o sgiliau y bydd awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn effeithio fwyaf.

Fodd bynnag, o'i drin yn iawn, gallai'r bygythiad o golli swyddi greu cyfle euraid, cyfle i wella sgiliau ac ailhyfforddi gweithwyr yn y sgiliau a allai nid yn unig gyflymu'r broses o greu swyddi newydd, ond a allai'n raddol greu gwell ansawdd bywyd iddynt hwy a'u teuluoedd, a'u cymunedau hefyd. Er y gall y broses o hyfforddi'r gweithwyr hyn mewn rolau anghyfarwydd a thechnegol fod yn ymarfer costus ar y dechrau, bydd yn profi'n hynod o gosteffeithiol yn y dyfodol trwy ddiogelu swyddi a chyflwyno gweithlu newydd mwy medrus. Mae hefyd yn gyfle perffaith i bwyso ar brofiad cwmnïau technoleg a seiber sy'n bodoli'n barod, gan ddefnyddio'r arbenigedd yn ein prifysgolion sydd o'r radd flaenaf. Gyda help y sefydliadau hyn, gall cwmnïau a diwydiannau sy'n mentro tuag at awtomatiaeth gael hyfforddiant a dealltwriaeth werthfawr. Daw bonws ychwanegol drwy hyn o gadw'r hyfforddiant yng Nghymru ei hun.

Ni all y cyfle i uwchsgilio a hyfforddi fod yn gyfyngedig i'r gweithlu presennol. Fel llunwyr polisi a chyfraith, mae gennym ddyletswydd i baratoi'r genhedlaeth nesaf o weithlu Cymru. Amcangyfrifir y bydd 65 y cant o blant a ddechreuodd yn yr ysgol gynradd ym mis Medi yn gweithio yn y pen draw mewn rolau nad ydynt yn bodoli eto. Drwy fethu â buddsoddi ynddynt heddiw, mae risg y byddwn yn peryglu nid yn unig eu dyfodol hwy, ond dyfodol Cymru hefyd, gan y gallai cwmnïau uwch-dechnoleg gael eu gorfodi i chwilio am weithwyr sydd â chymwysterau addas y tu allan i Gymru. Er ei bod yn wir y gall y penderfyniadau i greu cyflogaeth a dod â diwydiannau newydd a chyffrous i Gymru fod y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol, drwy ddatblygu a meithrin sgiliau newydd yng nghenedlaethau'r dyfodol, fe allwn annog diwydiant i weld Cymru fel cyrchfan ar gyfer busnes arloesol.

Er mwyn galluogi myfyrwyr y dyfodol i gyrraedd eu llawn botensial yn ddigyfyngiad mae angen newid mawr yn y cwricwlwm a'r amgylchedd y mae'r plant hyn yn cael eu haddysgu a'u magu ynddo. Yn ymchwil ein pwyllgor, roedd nifer o dystion arbenigol, megis Dr Rachel Bowen, yn cefnogi canfyddiadau adroddiad Donaldson, ac yn awgrymu pe bai adroddiad Donaldson yn cael ei weithredu'n briodol y gallai greu dysgwyr sy'n hollol barod i ymdrin â heriau'r unfed ganrif ar hugain. Ein dyletswydd yw sicrhau bod gweithwyr y dyfodol yn gadael addysg gyda'r sgiliau i ymdopi mewn amgylchedd gwaith a fydd yn esblygu ac yn newid ar gyflymder nas profwyd erioed o'r blaen.

Barn ein pwyllgor yw bod dyfodol economi Cymru yn dibynnu'n fawr ar allu Llywodraeth Cymru i fanteisio ar y technolegau newydd hyn a chreu amgylchedd lle ceir cyfle unigryw i'r gweithlu presennol wella'u sgiliau, a system addysg a fydd yn arfogi cenedlaethau'r dyfodol â'r sgiliau a'r gallu angenrheidiol i addasu i amgylchedd gwaith sy'n newid yn barhaus. Diolch.