Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch am ildio. Rydych wedi sôn am gydrannau allweddol yr economi newydd hon—band eang, trenau trydan. Credaf fod hwn yn amser da i hyrwyddo'r seilwaith ceir trydan yn ogystal. Gwn nad yw'n gwbl gysylltiedig â hyn, ond ar yr un pryd, mae'r cyfan yn rhan o rwydweithiau. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, fod angen i Gymru ddal i fyny o ran cael seilwaith gwefru ceir trydanol ar waith, felly rwy'n gobeithio y byddwch yn gwneud honno'n ystyriaeth flaenllaw yn ogystal.