Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 17 Hydref 2018.
Yn wir. Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le—mae'r farchnad yn methu'n sylweddol yng Nghymru, ac mae hyn hefyd yn berthnasol i feysydd eraill o ddarpariaeth dechnolegol. Y rheswm y bu'n rhaid inni ymyrryd mor ddwfn o ran band eang cyflym iawn yw oherwydd ein bod wedi gorfod mynd i'r afael â methiant y farchnad.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r sector modurol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd sut y caiff y gronfa o £2 miliwn ei defnyddio i osod pwyntiau gwefru trydan. Rydym yn gobeithio y gallwn ddefnyddio hynny fel cymhelliant i ddatblygu mwy o bwyntiau gwefru a fydd yn galluogi ceir i gael eu gwefru'n gyflym iawn. Credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio adnodd cyfyngedig yn y ffordd orau bosibl, ac mae hynny'n golygu diogelu'r ddarpariaeth o fannau gwefru ar gyfer y dyfodol; mae'n golygu buddsoddi yn y pwyntiau gwefru sy'n mynd i allu cyflenwi pŵer i geir yn gynt. Rwy'n arbennig o falch fod technolegau newydd yn y sector modurol yn cael eu datblygu yma ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwy'n falch iawn y bydd pwerwaith trydan Lagonda newydd Aston Martin Lagonda ymhlith y mwyaf datblygedig ar y blaned, ac y byddwn yn ei weld yn cael ei ddatblygu yma.
Nawr, ym mis Mawrth, cyhoeddwyd adolygiad o oblygiadau arloesi digidol ar ddyfodol gwaith ac economi Cymru, fel y nododd yr Aelodau, ac mae'r gwaith hwnnw bellach ar y gweill ac yn cael ei arwain gan yr Athro Phil Brown o ysgol gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at ganlyniad yr adolygiad ym mis Mawrth, a gallaf sicrhau Russell George y bydd yn mynd i'r afael ag argymhelliad 1, ac os nad yn llawn, yna gallaf ei sicrhau y gwneir rhagor o waith ategol. Mae angen inni fod yn wirioneddol effro bob amser yn ystod y pedwerydd chwyldro diwydiannol i dechnolegau sy'n creu marchnad newydd y gellid ei defnyddio gan economi Cymru, ac o fewn economi Cymru, i roi mantais gystadleuol inni. Felly, bydd gofyn cael gradd gyson o fonitro, gwerthuso, astudio ac ymchwil. Ac a gaf fi sicrhau Russell ac Aelodau eraill yn y Siambr y byddwn yn parhau i ddatblygu perthynas strategol, gydgefnogol a buddiol gyda busnesau, gyda'r byd academaidd a chyda chymunedau i baratoi ein heconomi ar gyfer y dyfodol.
Mae newidiadau yn y ffordd y gweithiwn a goblygiadau awtomatiaeth yn golygu bod angen inni ailystyried ein hymagwedd tuag at ddysgu gydol oes ac addasu ein darpariaeth hyfforddiant a sgiliau yn unol â hynny. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi amryw o fesurau i gynorthwyo unigolion i ddatblygu ac addasu eu sgiliau i anghenion newidiol y farchnad lafur. At hynny, fel y nododd rhai o'r Aelodau, bydd technoleg ac arloesedd, gan gynnwys y defnydd o ddata, yn helpu'r diwydiant ffermio i foderneiddio ac i ddod yn fwy gwydn a chystadleuol a mynd i'r afael â'i gyfrifoldebau newid hinsawdd a'r amgylchedd. Ni chredaf y dylid ystyried ffermio manwl ar ei ben ei hun; yn hytrach, dylid ei ystyried yn rhan o strategaeth amaethyddol a defnydd tir ehangach ar ôl Brexit, a bydd amaethyddiaeth fanwl yn sicr yn helpu'r sector i fynd i'r afael â'i gyfrifoldebau newid hinsawdd a'r amgylchedd yn unol â'r cynllun gweithredu economaidd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser. Gan daflu cipolwg yn ôl ar y ddadl flaenorol, yn aml iawn cwmnïau angori, fel buddsoddwyr mawr gyda'r gallu i harneisio arloesedd ac arbenigedd o bob cwr o'r byd, sy'n gyrru newid technolegol, a chredaf mai honiad peryglus iawn yw dweud y dylem roi'r gorau i gefnogi arloesedd mewn cwmnïau megis Airbus UK, Ford, Calsonic Kansei, Tata ac eraill er mwyn cefnogi datblygiad yr economi sylfaenol yn unig. Yn hytrach, dylem weld yr economi sylfaenol fel sylfaen i economi Cymru sy'n sbarduno twf cynhwysol, a diwydiannau yfory, sy'n cynnwys y cwmnïau angori a gefnogwyd gennym, fel ysgogwyr y pedwerydd chwyldro diwydiannol y mae angen inni weithio mewn partneriaeth â hwy.