Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Rydym am fynegi ein pryder ynghylch capasiti GIG Cymru i ateb y galw am ofal heb ei gynllunio drwy gydol y flwyddyn, ac nid yn ystod y gaeaf yn unig, sy'n aml yn destun llawer o drafod yma, gan mai gwirionedd y sefyllfa yw y gall pwysau edrych ychydig yn wahanol yn y gaeaf gan fod nifer uwch o blant ifanc â bronciolitis neu bobl fregus sydd wedi cael codymau a heintiau ar y frest, ond y gwir plaen yw bod y pwysau hyn yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae methiant cyson Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her hon yn llesteirio'n ddifrifol gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at ofal heb ei gynllunio.
Yn y 12 mis diwethaf, cofnodwyd bron 1,400 o ddyddiau—dyna un fil pedwar cant o ddyddiau—o bwysau argyfwng eithafol yn ysbytai GIG Cymru. Gweithredodd ein hysbytai o dan bwysau eithafol ar 1,395 o ddyddiau dros gyfnod o flwyddyn yn 2016-17. Mae'r pwysau ar y gwasanaeth, ar staff ac ar gleifion yn annioddefol ac ni all barhau. Mae cyfraddau salwch yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru yn 8.8 y cant, sy'n ffigur syfrdanol ac yn 2015-16, collodd GIG Cymru dros 948 o flynyddoedd pobl o waith yn sgil absenoldeb staff gyda salwch sy'n gysylltiedig â straen. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau mewn gwasanaethau gofal y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Nawr, mae'n ymddangos i mi fod gwelliannau yn y meysydd allweddol hyn yn dibynnu ar sicrhau nad yw pobl yn mynd i ddibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hynny oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad at ofal yn y gymuned leol lle maent yn byw. Mae sicrhau model gofal cymunedol cywir yn hanfodol, yn enwedig gan fod y Llywodraeth a'r byrddau iechyd yn ceisio gweddnewid y ddarpariaeth o ofal eilaidd. Pan fydd ardaloedd fel gorllewin Cymru yn gweld y ddarpariaeth o ofal iechyd yn cael ei newid mewn ffordd nad yw'n ategu argaeledd gwasanaethau yn y gymuned rhaid gofyn y cwestiwn: sut y gallwn atal y pwysau ar ofal critigol, ar wasanaethau y tu allan i oriau a thimau ambiwlans ledled Cymru?
Rydym wedi clywed dro ar ôl tro fod y rhai ohonom sy'n ddigon ffodus i fyw yn hwy—ac i wneud hynny yn ein cartrefi ein hunain gyda lwc—yn aml yn cael trafferth i gael y cymorth priodol, fel arfer oherwydd diffyg adnoddau gan y gwasanaethau cymdeithasol. Er mai nod y ddadl hon yw tynnu sylw at ddiffyg cynllunio integredig ar ran y Llywodraeth ar gyfer gofal heb ei gynllunio, rwy'n derbyn bod gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, yn cyflwyno elfen hanfodol, a byddwn yn cefnogi ei welliannau.
Ddirprwy Lywydd, ni allaf fod o ddifrif o gwbl ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth. Gadewch imi ddarllen y tamaid hwn:
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru iachach ar waith i ymdrin â'r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans'.