– Senedd Cymru am 6:03 pm ar 17 Hydref 2018.
Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Lee Waters i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis. Lee.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf roi munud o fy amser i Jenny Rathbone.
Mae'r wyddoniaeth yn ddiamwys: mae'r cysylltiad rhwng gweithgarwch dynol a thymereddau byd-eang cynyddol mor gryf ac mor bendant â'r cyswllt rhwng ysmygu a chanser yn ôl y Gymdeithas Americanaidd er Hyrwyddo Gwyddoniaeth. Mae cytundeb Paris ar newid hinsawdd yn gosod targed o ddim mwy na 2 radd canradd o gynhesu byd-eang uwchlaw'r tymereddau cyn-ddiwydiannol erbyn diwedd y ganrif. Roedd hefyd yn gosod targed uchelgeisiol o ddim mwy nag 1.5 gradd canradd. Rydym ar hyn o bryd ar y trywydd tuag at 3 gradd canradd a mwy o gynhesu byd-eang erbyn diwedd y ganrif. Rydym yn debygol o losgi drwy weddill y gyllideb garbon ddyheadol o fewn y tair i 10 mlynedd nesaf a chyrraedd 1.5 gradd o gynhesu erbyn 2040.
Nawr, nid yw 1.5 gradd yn swnio'n llawer, ond mae'n trosi'n ddigwyddiadau tywydd amlach a mwy eithafol, fel stormydd, tywydd poeth a llifogydd—y math o ddigwyddiadau sy'n effeithio'n ddifrifol ar fywydau pobl. Mae'r gwahaniaeth rhwng 1.5 gradd a 2 radd o gynhesu byd-eang yn gyfystyr â'r gwahaniaeth rhwng Arctig sy'n rhydd o iâ unwaith bob degawd, neu unwaith bob canrif. Mae'n gyfystyr â'r gwahaniaeth rhwng dinistrio riffiau cwrel y byd yn llwyr neu golli tua 30 y cant o'r ecosystem hon sy'n cynnal bywyd.
I osgoi'r trychineb posibl hwn, rhaid i'r byd roi cychwyn ar ymdrech benderfynol i symud oddi wrth danwydd ffosil fel ffynhonnell ynni. Gallwn baratoi ar gyfer rhyfel, gallwn ail-gyfalafu banciau byd-eang gyda rhaglen enfawr o esmwytho meintiol ac felly hefyd, gallwn ail-galibradu er mwyn lliniaru newid hinsawdd a achoswyd gan bobl os ydym yn dewis gwneud hynny. Y wers syml o'r wyddoniaeth hon yw po gyflymaf y byddwn yn lleihau allyriadau carbon, y lleiaf difrifol fydd effeithiau cynnydd yn y tymheredd byd-eang. Diolch byth, mae llawer o'r dulliau ar gyfer lleihau ein hallyriadau eisoes yn bodoli. Gallwn weithredu yn awr. Mae'n golygu bod yn rhaid i newid ein system ynni i ffynonellau adnewyddadwy fod yn flaenoriaeth allweddol i Gymru. Wrth ynni, yr hyn a olygaf yw'r trydan a ddefnyddiwn i oleuo ein swyddfeydd a phweru ein setiau teledu, yn ogystal â'r ynni a ddefnyddiwn i bweru ein cerbydau a gwresogi ein cartrefi.
Rhaid inni ddechrau, fel yr Almaen a Denmarc, drwy dargedu gostyngiad yn ein galw am ynni, drwy gynyddu effeithlonrwydd a dileu gwastraff. Wedyn gallwn ddechrau datgarboneiddio trydan. Targed Llywodraeth Cymru yw cynhyrchu 70 y cant o'n trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ar hyn o bryd nid ydym ond yn cynhyrchu 42 y cant o'n trydan o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae angen inni symud yn gynt. Nid oes gennym ond 12 mlynedd ar ôl i gyrraedd ein targed.
Mae'r technolegau a'r modd o wneud hyn eisoes yn bodoli, ac er mor llwm yw'r wyddoniaeth, mae yna gyfleoedd enfawr yn bodoli i Gymru. Gallwn fod yn arweinydd ym maes datblygu a defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r llanw. Ceir cwmnïau yng ngogledd Cymru a de Cymru sy'n datblygu atebion sy'n arwain diwydiant ar gyfer datrys problemau allweddol y defnydd o ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio ar ein potensial yn y sector hwn, yn wahanol iawn i stori ynni gwynt, lle roedd Cymru unwaith yn arweinydd byd cyn iddi gael ei gadael ar ôl a cholli cyfle i fanteisio ar y gweithgynhyrchu a'r eiddo deallusol gwerthfawr a ddatblygodd.
Ond mae'r cyfleoedd mwyaf uniongyrchol yn dal i fodoli ar y tir, mewn ynni gwynt ac ynni'r haul, a biomas hyd yn oed—technolegau a brofwyd yn llawn ac sy'n hawdd eu hadeiladu a'u cynnal ac felly'n gymharol isel o ran cost. Rydym yn agos at bwynt lle gall ynni adnewyddadwy ar y tir weithredu heb gymhorthdal, gan roi diwedd ar y pryderon y bydd ynni gwyrdd yn chwyddo biliau'r cartref mewn modd artiffisial. Mae cost ynni adnewyddadwy newydd yn sylweddol is na niwclear, ac yn cystadlu â gorsafoedd pŵer nwy newydd. Mae hyn yn newid pethau'n sylfaenol.
Yng nghefn gwlad Cymru y ceir un o adnoddau gwynt mwyaf sylweddol y DU, ond ni wnaed defnydd digonol ohono ac ni cheir cyfle i adeiladu mwy na nifer fach o brosiectau oherwydd bod y grid yn gyfyngedig. Mae diffyg capasiti grid yn cyfyngu ar gyfleoedd eraill hefyd. Ar hyn o bryd, ni fydd y rhan fwyaf o'r Gymru wledig yn gallu gweithredu mannau gwefru cerbydau trydan ar raddfa fawr, gwres adnewyddadwy na hyd yn oed datblygu cyflogaeth newydd oherwydd na allwn drosglwyddo digon o drydan, ac rydym mewn perygl o ynysu pobl yng nghefn gwlad Cymru, a rhan o fy etholaeth fy hun, rhag effaith newidiadau technolegol a chyfleoedd newydd.
Nodir na ellir gosod mwy nag 1 MW o gapasiti yng Nghymru tan ail hanner y degawd nesaf. Mae angen y capasiti hwn i gefnogi cynhyrchiant uchel a defnydd o ynni adnewyddadwy. Hyd nes y gallwn ddatrys hyn, nid wyf yn gweld sut y gallwn gyrraedd ein targed o gynhyrchu 70 y cant o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ac yn fwy perthnasol, os na allwn gyflymu'r amserlen hon, gallai fod yn rhy hwyr i atal cynhesu byd-eang trychinebus. Dylai'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru ystyried y grid fel mater o flaenoriaeth fel y dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn datgloi cyllid i adeiladu'r grid hwn, a allai'r sector cyhoeddus fuddsoddi yn y grid drwy gronfeydd pensiwn a buddsoddiadau eraill? Yn hytrach na gwario ein gallu benthyca ar godi mega-ffordd a fydd yn anochel yn arwain at allyriadau pellach ac a gaiff ei hadeiladu drwy wlyptiroedd gwarchodedig, sy'n ddalfeydd carbon wedi'r cyfan, dylem roi blaenoriaeth i brosiectau sy'n ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r dyfodol, nid eu chwalu'n rhacs. A gallai ein helpu yma yn y presennol. Bydd galluogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn creu elw economaidd sefydlog a hirdymor ar gyfer pobl Cymru.
Felly, rhaid inni ymatal rhag rhoi cyllid tuag at ynni budr. Ar hyn o bryd mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru wedi sicrhau buddsoddiad o dros £1 biliwn mewn tanwyddau ffosil, arian y gellid ei roi tuag at ddefnydd llawer gwell i gefnogi economi werdd newydd yng Nghymru. Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu y gallem greu 3,500 o swyddi yn ninas-ranbarth bae Abertawe, sy'n cynnwys etholaeth Llanelli, drwy newid i rwydwaith trydan 100 y cant adnewyddadwy, a byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn swyddi gweithredu a chynnal a chadw hirdymor.
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyflawni ymchwil helaeth i weld pa gamau ymarferol y byddai eu hangen i droi Cymru'n wlad sy'n diwallu ei hanghenion ynni i gyd o ffynonellau adnewyddadwy. Dyna'r math o ymateb beiddgar sydd angen inni ei weld i rybudd cytundeb Paris. Un peth yw pasio deddfwriaeth symbolaidd a chael sylw yn y Cenhedloedd Unedig; gweithredu sy'n cyfrif—gweithredu ar gyfer y tymor hir sy'n cynhyrchu manteision pendant yn y tymor byr hefyd.
Mae ymchwil y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu bod tua £1.6 biliwn o fantais economaidd i ailosod tai i gydymffurfio â safon effeithlonrwydd ynni uwch dros gyfnod o 15 mlynedd. Oherwydd bod y cwmnïau a fyddai'n cyflawni'r gwaith wedi'u gwreiddio'n lleol yn yr economi sylfaenol, mae manteision hyn yn debygol o gael eu cadw yn ein cymunedau, a chan ein cymunedau. Eisoes mae gennym arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes adeiladu cynaliadwy yn ein prifysgolion, yn ein cymdeithasau tai ac yn ein sector preifat, a dylem ei ddefnyddio i sicrhau bod yr holl adeiladau a adeiladir o'r newydd yng Nghymru yn bodloni safonau llym ar gyfer allyriadau carbon. Felly, rwy'n falch fod y Gweinidog tai wedi cyhoeddi cyllid o £4 miliwn ar gyfer prosiect tai gwyrdd arloesol ym Mhorth Tywyn yn fy etholaeth.
Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mwy na thrydan a gwres; mae a wnelo hefyd â thrafnidiaeth. Rhaid inni ddatgarboneiddio ein system drafnidiaeth. Yr ateb mwyaf uniongyrchol ac effeithiol yw torri'r ddibyniaeth ar drafnidiaeth breifat, symud pobl tuag at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer teithiau byr. Mae pob math o fanteision ehangach i iechyd a lles y genedl hefyd o sicrhau bod mwy o bobl yn cerdded a beicio. Dyma'r ateb sy'n gwneud synnwyr ar bob math o lefelau.
Er mor sylweddol a phwysig yw cerbydau trydan fel dyfais, nid ydynt yn ateb i'r broblem hon heb drawsnewid y system drydan. Wedi dweud hynny, dylai Llywodraeth Cymru nodi uchelgais i roi diwedd ar werthu cerbydau petrol a diesel newydd yn y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwaharddiad erbyn 2040, gyda gwledydd eraill yn Ewrop yn mynd lawer yn gynharach. Gadewch i ni osod ein huchelgais yn uwch a gadewch i ni ddenu'r sector modurol sydd wedi'i leoli yng Nghymru i droi hyn yn gyfle. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, ac mae'n rhaid iddi wneud yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth yn rhan ganolog ohoni, nid yn unig yn y geiriau ar ei blaen ond yn y camau gweithredu yn y cefn. Ac mae angen sicrhau bod yr ynni a ddefnyddiwn ar gyfer trafnidiaeth yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, boed yn drydan, yn hydrogen neu'n fiodanwyddau.
Gall Cymru ddefnyddio'r argyfwng hinsawdd hwn fel cyfle i ddod yn arweinydd byd-eang, nid mewn geiriau'n unig ond drwy ddefnyddio technolegau adnewyddadwy a datgarboneiddio'r system ynni. Mae'r amserlen yn dynn ac mae angen inni weithredu, ond mae cyfleoedd yma i wella bywydau dinasyddion Cymru wrth inni ei wneud. Diolch.
Mae gennym lawer o eiriau cynnes ar hyn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gosod targed heriol o 70 y cant ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy i Gymru. Ond mae angen inni drosi geiriau'n weithredu, nid yn lleiaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hyd yn hyn, defnyddiwyd y system gynllunio i danseilio brwdfrydedd dinasyddion sy'n dymuno gwneud y pethau cywir, ac mae rhan fwyaf wedi ildio o dan y gymysgedd o broblemau a roddwyd yn eu ffordd. Ddoe, cawsom restr galonogol o wobrau tai arloesol ledled Cymru, a fydd yn darparu cartrefi di-garbon fforddiadwy ar gyfer tua 600 o deuluoedd. Mae angen inni wneud rhagor ac yn well. Mae angen inni newid y rheolau cynllunio, y rheoliadau adeiladu, er mwyn sicrhau bod yr holl gartrefi yn y dyfodol yn bodloni'r safonau di-garbon heriol hyn, sef yr hyn y ceisiodd Gordon Brown ei gyflwyno yn ôl yn 2007 ond cawsant eu taflu allan gan Lywodraeth y DU yn 2015. Yn ddiweddar bûm mewn cyfarfod â Dŵr Cymru a ddywedodd wrthym nad oedd unrhyw beth y gallent ei wneud i gasglu dŵr llwyd ar gyfer ei ailddefnyddio hyd nes y bydd y rheoliadau adeiladu'n newid i sicrhau bod dŵr llwyd yn cael ei wahanu pan ddaw oddi ar y to a'r ffyrdd, fel nad yw'n mynd yn syth i'r môr. Felly, buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i roi amserlen inni ar gyfer pryd y gallwn ddiwygio'r rheoliadau adeiladu i fodloni'r dyheadau sydd angen inni eu cyflawni er lles ein hwyrion.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lee, am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw. Hefyd, hoffwn groesawu gwaith y prosiect Ail-egnïo Cymru gan y Sefydliad Materion Cymreig. Mae'r gwaith yn ystyried sut y gellid diwallu 100 y cant o'n galw am ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a'r manteision y gallai hyn eu cynnig i Gymru. Rwy'n disgwyl canlyniadau eu hymchwil gyda diddordeb.
Y flwyddyn diwethaf gosodais darged uchelgeisiol i gynhyrchu 70 y cant o ddefnydd ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy. Byddai cyflawni 100 y cant o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn heriol iawn a gallai ein gadael yn ddibynnol ar ein cymdogion i gadw'r goleuadau ynghynn yng Nghymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd adroddiad grymus iawn ar effeithiau cynhesu byd-eang. Tynnodd sylw at sut y byddai gyfyngu cynhesu i 1.5 gradd yn hytrach na 2 radd yn cynnig manteision lluosog o ran y cyflenwad bwyd a dŵr, iechyd dynol a'r amgylchedd. Er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd, mae'r panel yn argymell fod angen inni gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn gyflym i ddarparu tua 85 y cant o drydan y byd erbyn 2050. Câi hyn ei gefnogi gan ynni niwclear a thanwydd ffosil gyda dal a storio carbon. Mae'r panel yn datgan fod nwy yn debygol o gynhyrchu tua 80 y cant o'r trydan ledled y byd i ddarparu hyblygrwydd a diogelwch. Byddai cyfyngu ar allyriadau yn galw am ddal a storio carbon, ac nid yw'r dechnoleg hon wedi'i phrofi eto.
Yn eu hasesiad o'r seilwaith cenedlaethol, argymhellodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU y dylai'r system ynni fod yn rhedeg ar 50 y cant o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy fan lleiaf erbyn 2030, fel rhan o'r trawsnewid i gymysgedd o ddulliau cynhyrchu hynod adnewyddadwy. Dangosodd modelau'r comisiwn fod darparu system drydan carbon isel erbyn 2050, wedi'i phweru'n bennaf gan ffynonellau adnewyddadwy, yn opsiwn cost isel.
Yng Nghymru, rydym eisoes yn gweithredu ar newid hinsawdd drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, lle rydym wedi deddfu i leihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo ein targedau allyriadau dros dro hyd at 2050 a'n dwy gyllideb garbon gyntaf yn ddiweddarach eleni. Mae ein ffocws yn awr ar y camau sydd angen inni eu cymryd i gyflawni yn erbyn ein targedau. Rydym yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf, a gyhoeddir ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Rwyf wedi mynegi pryderon wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â'u penderfyniad i hepgor technolegau ynni'r haul a gwynt ar y tir o gontractau gwahaniaeth, y bwriad i ddod â'r tariff cyflenwi trydan i ben, a'r diffyg cyllid i gefnogi technolegau'r tonnau a'r llanw. Mae'r mecanweithiau cymorth hyn wedi ysgogi nifer enfawr o bobl i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac wedi sicrhau gostyngiadau dramatig yn y gost. Mae angen i Lywodraeth y DU adolygu'r gyfundrefn gymorthdaliadau gyfredol fel ei bod yn adlewyrchu pwysigrwydd datblygiadau ynni'r haul a gwynt i gymysgedd ynni fforddiadwy.
Yng Nghymru, rydym yn gweithio i hybu a hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy ac mae effeithiau'r gwaith hwn i'w gweld. Cynhyrchodd ynni adnewyddadwy ddigon o drydan i ddiwallu 43 y cant o'r defnydd yng Nghymru yn 2016, ac mae'r arwyddion yn dynodi ei fod wedi codi ymhellach i 48 y cant yn 2017. Yr haf hwn, mynychodd Gweinidog yr Amgylchedd agoriad fferm wynt Gorllewin Coedwig Brechfa a lansiodd y gronfa buddsoddi cymunedol flynyddol sy'n werth £460,000. Mae ystâd coetiroedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal Pen y Cymoedd, sef y prosiect gwynt ar y tir mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal â'r gwaith y mae ystâd y Goron, y cefais gyfarfod â hwy y bore yma, yn ei wneud ar lesoedd newydd posibl, maent hefyd wedi nodi'r potensial ar gyfer estyniad i fferm wynt ar y môr bresennol Gwynt y Môr.
Nid yw cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ei ben ei hun, fodd bynnag, yn gwneud dim i leihau ein hallyriadau carbon. Rhaid inni ddileu cynhyrchiant tanwydd ffosil er mwyn ddatgarboneiddio. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n cynhyrchu 19 y cant o'r capasiti trydan a gynhyrchir o nwy yn y DU. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio llai na 6 y cant o gyfanswm trydan y DU. Roedd 82 y cant o'r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru y llynedd wedi'i gynhyrchu o lo a nwy. Rydym yn ystyried faint y dylai Cymru ei gynhyrchu o nwy yng Nghymru yn y dyfodol a'r dulliau sydd ar gael gennym i reoli hyn. Bydd penderfyniadau ar safleoedd niwclear yn y dyfodol yn cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU. Bydd Wylfa Newydd yn darparu ynni carbon isel llwyth sylfaenol gwerthfawr ar gyfer system y DU. Fodd bynnag, os yw Cymru i gynnal prosiectau ynni strategol o'r fath, rhaid iddynt ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i Gymru.
Mae symud tuag at ynni glân hefyd yn galw am weithredu er mwyn symud oddi wrth echdynnu tanwydd ffosil. Rwyf wedi ymrwymo i weithredu er mwyn atal Cymru rhag cael ei chloi i mewn i echdynnu tanwydd ffosil pellach drwy olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, megis methan gwely glo neu siâl.
Erbyn diwedd y flwyddyn hon, byddaf yn lansio diweddariad cynhwysfawr o 'Polisi Cynllunio Cymru'. I ateb cwestiwn Jenny Rathbone, byddaf yn llunio argraffiad diwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru cyn diwedd y tymor hwn. Fel y gwyddoch, rydym yn edrych ar adolygiad o'r rheoliadau adeiladu a fydd yn mynd i mewn i ddechrau'r flwyddyn nesaf. Fel rhan o'r gwaith o adolygu polisi cynllunio Cymru, byddaf yn cryfhau'r polisi cynllunio mewn perthynas ag echdynnu nwy ac olew anghonfensiynol ar y tir. Bydd Polisi Cynllunio Cymru yn rhan allweddol o'n polisi cenedlaethol cryfach i hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Rwyf am i awdurdodau cynllunio lleol weld adnoddau adnewyddadwy fel asedau gwerthfawr. Rydym wedi cyflwyno gofynion newydd i awdurdodau lleol nodi ardaloedd ar gyfer cynhyrchiant ynni'r haul a gwynt newydd ac i osod targedau lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn eu cynlluniau.
Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol a'r cynllun morol cenedlaethol ar gyfer Cymru yn darparu cyfle i ystyried y seilwaith sydd ei angen arnom i sicrhau economi wedi'i datgarboneiddio. Ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol, rydym yn gweithio i nodi adnoddau ynni'r haul a gwynt ar y tir yng Nghymru, effeithiau eu harneisio, a'r ardaloedd mwyaf priodol ar gyfer annog cynhyrchiant. Yn yr un modd, ar gyfer y cynllun morol, datblygir polisïau i harneisio ynni adnewyddadwy morol cynaliadwy. Fodd bynnag, o ystyried y trydan y mae Cymru eisoes yn ei allforio, rhaid i gynhyrchiant newydd ddarparu digon o fudd i gyfiawnhau ei gyflawni yng Nghymru.
Dengys ymchwil a gyflawnwyd gan y Ganolfan ar gyfer Dyfodol Carbon Isel ar draws ystod o ddinas-ranbarthau byd-eang, y ceir allforio sylweddol o werth economaidd yn syml drwy dalu biliau ynni. Yn rhanbarthau'r DU a astudiwyd, roedd hyn rhwng 5.9 y cant a 18 y cant o'r gwerth ychwanegol gros a gâi ei allforio. Mae'r cynhyrchiant sy'n eiddo lleol yn darparu cyfle da i gadw arian yn yr economi leol, gan gyfrannu at ffyniant. Dyma pam y gosodais darged i sicrhau 1 GW o gynhyrchiant trydan sy'n eiddo lleol erbyn 2030 a disgwyliad i bob datblygiad newydd fod ag elfen o berchnogaeth leol o 2020 ymlaen. Rhaid i'n safbwynt polisi ar ynni adnewyddadwy gyflawni'r diben o gadw budd yn lleol heb weithredu fel rhwystr i gynhyrchiant newydd. Daeth ein galwad am dystiolaeth ar berchnogaeth leol i ben yn y gwanwyn a byddaf yn cyhoeddi ein hymateb y mis nesaf.
Byddwn yn cefnogi cynlluniau ynni rhanbarthol drwy'r atlas ynni. Adnodd fydd hwn ar gyfer helpu awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau rôl ganolog i ddatgarboneiddio mewn cynlluniau ar gyfer dyfodol eu hardaloedd. Bydd angen i gynlluniau ynni rhanbarthol gynnwys trydan, gwres a datblygiadau yn y dyfodol, megis cynnydd yn y galw am bŵer cerbydau trydan. Mae cyflwyno cerbydau trydan yn galw am seilwaith, fel y nododd Lee Waters, ac rydym yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol a dau weithredwr rhwydwaith dosbarthu yng Nghymru i gefnogi eu gwaith ar ddeall effeithiau ehangu'r seilwaith gwefru yng Nghymru.
Hefyd, mae angen inni ddeall mwy ynglŷn â sut y bydd system ynni glyfar a chydgysylltiedig yn gweithio'n ymarferol. Rydym yn ffodus fod gan Gymru y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol a Systemau Ynni Integredig Hyblyg—mentrau a ariennir gan yr UE sydd wedi dwyn arbenigedd ynghyd o'n prifysgolion i lywio datblygiadau arloesol mewn adeiladau ynni positif a byw yn glyfar. Rydym yn ategu hyn â'n gwaith ar yr arddangoswyr byw yn glyfar.
Rwyf wedi cynnig dadl, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer 20 Tachwedd, a hoffwn inni archwilio yn ystod y ddadl honno pa rôl y dylai Cymru ei chwarae ym marchnad ynni'r DU ac yn fyd-eang. Byddai'n ddefnyddiol inni archwilio'r lefelau cynhyrchiant y mae'r Aelodau'n credu y dylem fod yn anelu atynt. Mae hyn yn bwysig gan y bydd angen i ni arddangos arweinyddiaeth gref ar y cyd i gyflawni'r newidiadau hyn a sicrhau'r budd mwyaf posibl ar gyfer pobl Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.