Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 23 Hydref 2018.
Rwyf hefyd wedi sefydlu bwrdd cynghori, sy'n cynnwys uwch arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â phartneriaid allweddol o bob sector a rhanbarth daearyddol Cymru, i roi cyngor, her a throsolwg strategol i'r rhaglen. Mae'r bwrdd hwn eisoes wedi cyfarfod ddwywaith ac mae'n darparu gwerth ychwanegol gwirioneddol gyda'r arbenigedd a'r dylanwad y mae'n gallu eu rhoi i'n gwaith.
Pan gyhoeddwyd y cynllun 'Cymru Iachach', cyhoeddais hefyd y byddai arian ychwanegol ar gael i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy ein cronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn dros ddwy flynedd i gefnogi'r profion ar y modelau gwasanaeth newydd ar lawr gwlad. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom ni ysgrifennu at ein partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i'w gwahodd i weithio gyda'i gilydd drwy eu byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddatblygu a chyflwyno cynigion ar gyfer cymorth posibl gan y gronfa trawsnewid. Fe wnaethom ni ofyn i bartneriaid gynllunio cynigion yn unol â'n cyd-ddyheadau a nodir yn 'Cymru Iachach', ac yn arbennig ein gweledigaeth a'n hegwyddorion cynllunio. Dylai hyn lywio'r meddylfryd ynghylch modelau newydd o ofal di-dor. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod angen dod â gwasanaethau at ei gilydd, yn nes i'r cartref, ac mae'n rhaid iddi fod yn bosib gweithredu'r ffyrdd newydd hyn o weithio ar raddfa fwy ar draws y rhanbarthau ac, wrth gwrs, ar lefel Cymru gyfan.
Rwy'n falch o adrodd ein bod eisoes wedi cael wyth cynnig gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac mae mwy yn cael eu datblygu. Rwyf wedi cadarnhau cefnogaeth i ddau o'r cynigion hyn, gan gynnwys rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol integredig clwstwr Cwmtawe Bae'r Gorllewin, y gallaf ei gyhoeddi heddiw, yn dilyn prosiect Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned Caerdydd a'r Fro y cyhoeddais ac yr ymwelais ag ef yr wythnos diwethaf. Bydd y cynlluniau treialu hyn yn caniatáu inni brofi a gwerthuso dulliau newydd o ofal sy'n cefnogi'r egwyddorion a nodir yn 'Cymru Iachach', gan gynnwys adnabod ac ymyrryd yn gynnar i gefnogi unigolion sydd mewn perygl, defnyddio technoleg a rhannu gwybodaeth mewn modd arloesol i alluogi gwahanol wasanaethau i weithio gyda'i gilydd, a dulliau cymunedol amlddisgyblaethol i ddarparu gofal. Dylai pob un o'r rhain leihau'r pwysau ar ein meddygon teulu a'n hysbytai ac, wrth gwrs, ddarparu gwasanaeth gwell i'r cyhoedd.
Mae cryfder y cynigion yr ydym ni wedi'u cael hyd yma, a'r modd y mae partneriaid yn gyffredinol wedi cydweithio i ddatblygu'r syniadau hyn mewn amser byr, yn rhoi llawer o anogaeth imi y bydd ein byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflawni eu swyddogaeth fel y prif asiantau ar gyfer newid a thrawsnewid. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod hefyd os yw byrddau partneriaeth rhanbarthol i fod â'r brif ran yn y trawsnewid—ac rydym ni'n gwybod bod ganddyn nhw'r yr uchelgais i wneud hynny—bydd angen digon o adnoddau ac arbenigedd arnyn nhw i wneud hynny. Dyna pam fy mod i wedi cadarnhau yn ein cynigion cyllideb 2019-20 y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cael £30 miliwn ychwanegol. Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn cryfhau byrddau partneriaeth rhanbarthol ac yn sicrhau eu bod yn gallu bodloni heriau'r dyfodol.
Er bod y gronfa trawsnewid, yn ddealladwy, wedi denu llawer o ddiddordeb, fe ddywedaf eto yn awr, fel yr wyf i wedi dweud sawl gwaith ers i ni gyhoeddi'r cynllun, mae'n rhaid i drawsnewid gwasanaethau fod yn weithgaredd craidd ar gyfer pob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd angen arweinyddiaeth system gref i ysgogi'r newid sydd ei angen ledled Cymru. Yn y pen draw, nid y gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn ond y £9 biliwn o gyllid craidd y mae ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn ei dderbyn bob blwyddyn fydd yn cyflawni'r trawsnewid. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i nodi mai dim ond un rhan fach yw'r gronfa trawsnewid o'r rhaglen llawer ehangach o newid a nodir yn 'Cymru Iachach' yr ydym ni wedi ei ddechrau erbyn hyn ac wedi ymrwymo i'w gyflawni.
Hoffwn dreulio ychydig o amser yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am rywfaint o'r gwaith arall yr ydym ni eisoes wedi dechrau arno i gefnogi'r camau ehangach hynny. Addawodd y cynllun y byddai arweiniad cenedlaethol cryfach o'r canol ac ymrwymiad i symleiddio, pan fo hynny'n bosibl, rhai o'r trefniadau cynllunio ac adrodd sydd wedi datblygu o amgylch y gwasanaeth iechyd yn enwedig gydag amser. O ran y cyntaf o'r rhain, gallaf gadarnhau bod llawer o waith wedi dechrau mewn cysylltiad â'n gweithrediaeth arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. O ran gofynion cynllunio, yn gynharach y mis yma cyflwynais ganllawiau diwygiedig i'r cynllun tymor canolig integredig sy'n amlinellu proses symlach a mwy cydgysylltiedig yr ydym yn ei gefnogi â £60 miliwn ychwanegol o arian newydd.
Yn gydnaws â'n hymgyrch am fwy o bwyslais ar hybu iechyd, lansiais ein cronfa iach ac egnïol yn yr haf gyda'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni. Mae'r bartneriaeth hon gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru.
I gefnogi ein hamcanion gweithlu, rydym ni wedi cyhoeddi cytundebau cyflog newydd, ymestyn ein rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' ac wedi comisiynu Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu ein strategaeth gweithlu newydd. Rydym wedi aildrefnu grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol newydd sydd bellach yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector gofal cymdeithasol yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd gwladol. Byddaf wrth gwrs yn hapus i roi rhagor o ddiweddariadau i'r Aelodau yn y dyfodol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd.