Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 23 Hydref 2018.
Mae'r farchnad band eang yng Nghymru wedi gweld newid cyflym dros y pum mlynedd diwethaf. Mae 92 y cant o safleoedd yng Nghymru bellach yn gallu cael gwasanaeth band eang cyflym iawn, o'i gymharu â phrin hanner hynny bum mlynedd yn ôl. Mae'r trawsnewid hwn wedi digwydd yn sgil buddsoddiad gan y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.
Mae'r sector preifat yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau band eang yng Nghymru. Mae Virgin Media yn parhau i ehangu eu hôl troed yn ne Cymru ac wedi ehangu i ardal Wrecsam. Cyhoeddodd Openreach eu bod yn bwriadu dod â chysylltiad ffeibr llawn i 3 miliwn o safleoedd ledled wyth o ddinasoedd yn y DU, gan gynnwys Caerdydd, erbyn 2020.
O safbwynt y sector cyhoeddus, mae Cyflymu Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr gan ddod â gwasanaeth i bron 733,000 o safleoedd. Ni fyddai'n danddatganiad bod Cyflymu Cymru wedi chwarae rhan sylweddol yn chwildroi'r dirwedd ddigidol yng Nghymru. Mae busnesau ac unigolion yn awr yn mwynhau'r manteision sy'n dod o fand eang cyflym.
Rydym yn cefnogi busnesau i wneud y mwyaf o'u cysylltedd drwy ein rhaglen Cyflymu Busnes Cymru. Mae hon yn cefnogi busnesau ledled Cymru i ddeall, mabwysiadu a manteisio ar y technolegau busnes digidol a ddaw yn sgil seilwaith cyflym iawn. Hyd yma, mae'r rhaglen wedi helpu dros 3,000 o fusnesau, wedi rhoi 20,000 o oriau o gymorth ac wedi cynnal 500 o weithdai a digwyddiadau. I unigolion, mae band eang yn helpu nhw i ddysgu, i gadw mewn cysylltiad, i ddod o hyd i swyddi a chael adloniant.
Fel yr amlinellais mewn datganiadau blaenorol, serch hynny, mae mwy i'w wneud eto er mwyn cyrraedd y safleoedd sy'n weddill nad ydyn nhw'n gallu elwa o fand eang cyflym hyd yn hyn. O ystyried maint y dasg o ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i'r safleoedd nad oes modd iddynt ei gael ar hyn o bryd, bydd angen amrywiaeth o ymyriadau arnom ni yn y dyfodol. Nid oes un ateb. Mae angen inni wneud yn siŵr bod yr ymyriadau hyn yn ategu ei gilydd, yn rhoi sylw i'r angen o hyd am fand eang cyflym ac yn adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau.
Ceir tair elfen i'n dull ni o weithredu: cymorth unigol trwy ein Allwedd Band Eang Cymru a chynlluniau talebau cysylltedd cyflym iawn; cymorth i gymunedau drwy ein cynlluniau talebau ac ymyriadau a arweinir gan y gymuned; ac ehangu a ariennir yn gyhoeddus drwy'r prosiect olynol i Cyflymu Cymru. Bydd y prosiect olynol i Cyflymu Cymru yn llunio rhan o gyfres o ymyriadau. Ac fel yr amlinellais yn fy natganiadau blaenorol cyn toriad yr haf, rydym wedi cynnal ymarfer tendro ar gyfer y prosiect olynol i Cyflymu Cymru. Mae hon wedi bod yn broses gymhleth iawn.
Mae caffael ar gyfer lot rhif un, y Gogledd, a rhif tri, De-orllewin Cymru a'r Cymoedd, bellach wedi ei gwblhau. Y cynigydd llwyddiannus am y ddwy lot yw BT. Cafodd cytundeb grant ei lofnodi ddoe. O dan y cytundeb grant, bydd BT yn ddechrau darparu gwasanaeth band eang cyflym i bron 16,000 o safleoedd ar draws dwy lot erbyn mis Mawrth 2021, gan ddefnyddio ychydig dros £13 miliwn o arian cyhoeddus. Bydd y cyllid hwn yn dod o gyfraniadau gan Lywodraeth Cymru a chyllid o'r UE. Bydd y gwaith o osod rhwydwaith sylfaenol i gefnogi'r prosiect yn dechrau cyn bo hir. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer darparu sylfaen i gysylltu'r safleoedd. Rhagwelir y bydd y safleoedd cyntaf wedi'u cysylltu erbyn diwedd 2019. Bydd y mwyafrif helaeth o'r safleoedd hyn yn cael gwasanaeth trwy gysylltiad ffibr i'r safle, gan gynnwys pob safle yn lot rhif tri. Mae gwerthuso'r tendrau ar gyfer lot rhif dau sy'n cwmpasu dwyrain Cymru yn parhau, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar hyn cyn gynted ag y bydd y broses wedi ei chwblhau.
Yn fy natganiadau blaenorol amlinellais hefyd ein gwaith i adolygu cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn yn sgil y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am eu prosiect cenedlaethol talebau gigabit. Mae swyddogion yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn yr Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i archwilio sut y gellir defnyddio cynlluniau yn y ffordd orau i wella cysylltedd band eang i gartrefi a busnesau yng Nghymru. Maen nhw wedi ymchwilio i nifer o ddewisiadau ac fe wnaethon nhw gyfarfod yr wythnos diwethaf eto i gwblhau cynnig. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ichi cyn gynted ag y gallaf.
Rwyf wedi ymrwymo i roi cefnogaeth unigol i'r safleoedd sy'n methu â chael band eang cyflym trwy barhau â'r cynllun Allwedd Band Eang Cymru. Rydym yn gweithio i symleiddio'r broses ymgeisio i'w gwneud yn gyflymach ac yn haws i unigolion wneud cais i'r cynllun. I lawer, cynllun cymunedol fydd y llwybr gorau i gysylltedd band eang cyflym. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, rydym eisoes wedi cael llwyddiannau wrth gefnogi ymyraethau ar lefel gymunedol.
Defnyddiodd pentrefwyr yn Llanfihangel-y-Fedw dalebau gan ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru i gefnogi eu menter band eang cymunedol eu hunain. Ffurfiwyd cwmni buddiannau cymunedol i ddod â band eang cyflym iawn â chysylltiad ffeibr i'r adeilad i'r trigolion a busnesau. Mae hyn wedi cynyddu cyflymder eu band eang o tua 4 Mbps hyd at gyflymder o 1 Gbps ar gyfer lanlwytho a lawrlwytho. Cyflogodd y prosiect cymunedol gontractwyr i wneud rhywfaint o'r gwaith, tra bod timau o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel tyllu siambrau, asio ffibr, gosod twythellau a rhoi hyb cyfathrebu'r pentref yn ei le. Mae tafarn y pentref, y neuadd gymunedol a'r eglwys eisoes wedi eu cysylltu â'r rhwydwaith band eang cyflym iawn, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu cyfanswm o dros 175 safle yn y gymuned. Mae mwy o safleoedd bellach yn dewis ymuno â'r prosiect.
Nid y dull hunan-balu hwn yw'r unig fodel cymunedol a byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac awdurdodau lleol i roi cyngor ac arian ar gyfer dod â band eang cyflym lle mae ei angen. Er enghraifft, mae swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr o brosiect B4RN yng ngogledd-orllewin Lloegr i drafod sut y gallai gefnogi cymunedau yng Ngogledd Cymru. Nid Llanfihangel-y-Fedw yw'r unig gymuned sy'n chwilio am atebion cymunedol. Bûm mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanddewi Rhydderch yn Sir Fynwy yn ddiweddar ac mae'r gymuned honno yn ystyried cynllun hefyd. Mae swyddogion bellach yn gweithio gyda nhw nawr i archwilio'r dewisiadau sydd ar gael.
Fel y nodais mewn datganiadau blaenorol, rydym yn datblygu ymyriadau cymunedol a fydd yn adeiladu ar y talebau Allwedd Band Eang Cymru a'r talebau cyflym iawn i sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar arian ar gyfer y mathau hyn o gynlluniau. Mae'r gwaith hwn yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer y prosiect olynol i Cyflymu Cymru ac, fel yr amlinellwyd uchod, adolygiad y cynlluniau talebau. Wrth i ddarnau eraill o'r gwaith ddod i ben, bydd swyddogion yn gallu troi eu sylw at ddatblygu'r cynllun newydd ymhellach. Yn y cyfamser, bydd cymunedau yn parhau i allu cael gafael ar gyllid oddi wrth y cynlluniau talebau.
Mae ein gwaith i wella seilwaith digidol yn hanfodol i ategu ein hymrwymiadau yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac i'r cynllun gweithredu economaidd. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ichi wrth inni ddatblygu a chyflawni ein dull integredig o gysylltedd band eang cyflym. Diolch.