Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 23 Hydref 2018.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl bwysig hon. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac rwy'n sicr yn cefnogi'r cyfeiriad y mae yn ei osod. Rwy'n croesawu yn arbennig ei sylwadau am ffordd wahanol o ymdrin â menywod yn y system cyfiawnder troseddol ac edrychaf ymlaen at weld y glasbrint y bydd y Llywodraeth yn ei lunio, oherwydd credaf fod llawer mwy o gydnabyddiaeth yn gyffredinol bellach—y canlyniadau trychinebus o garcharu menywod a bod y nifer y menywod sydd mewn gwirionedd yn mynd i'r carchar, sydd angen cael eu gwahanu oddi wrth y cyhoedd oherwydd unrhyw elfen o berygl, yn eithriadol o fach. Rwyf mor falch felly, o'r diwedd, ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod hyn yn wrthgynhyrchiol—yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Felly, credaf, o'r diwedd, bod Llywodraeth y DU yn dechrau newid eu cân ac rwy'n falch iawn bellach y gallwn ni weithio yn fwy cadarnhaol â nhw yng Nghymru.
Yn fy mywyd gwaith, cyn imi fod yn wleidydd, roeddwn i'n weithiwr cymdeithasol ac yn gweithio'n agos iawn gyda'r gwasanaeth prawf. Mae hi'n dorcalonnus imi weld yr hyn sydd wedi digwydd i'r gwasanaeth prawf, oherwydd roedd yn wasanaeth o'r radd flaenaf. Roedd yn rhagorol—y gwaith yr oedden nhw'n ei wneud gyda throseddwyr, yn gweithio ar atal troseddu ac yn gweithio gyda throseddwyr pan eu bod yn gadael carchar. Rwy'n credu bod yr hyn sydd wedi digwydd yn hollol erchyll. Fel y dywedodd Leanne, rwy'n credu, yn ei chyfraniad, ac fel mae Napo yn ei ddweud, roedd yn peryglu'r cyhoedd, yr hyn a wnaethon nhw, ac mae'n anodd iawn, rwy'n credu, inni ailadeiladu o'r sefyllfa honno, oherwydd rwy'n gwybod pa mor ddigalon yw gweithwyr y gwasanaeth prawf. Pan ddigwyddodd y rhaniad yn y gwasanaeth prawf yng Nghymru, roedd gennych chi swyddogion prawf yn eistedd mewn un swyddfa a oedd yn cael eu cyflogi gan ddwy set gwahanol o bobl gyda dwy system weithredu wahanol. Roedd swyddogion prawf yn dod yma i'r Senedd i esbonio sut yr oedd y system hon yn gweithio ac yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n hollol ddigalon, a dyna'r math o sefyllfa y mae angen inni ddringo ohoni.
Pan fo'r ddogfen yn dweud bod angen cryfhau y gwasanaeth prawf, mae angen mewn gwirionedd ei ailadeiladu yn hollol o'r newydd. Ond rwyf yn cydnabod y pwyntiau a wnaeth Leanne ynglŷn â sut maen nhw wedi dioddef cymaint bod gweddnewidiad llwyr mewn gwirionedd yn anodd iawn i'w ystyried ac mae angen gwneud hynny mewn ffordd dringar iawn, iawn. Hoffwn dalu teyrnged i'r swyddogion prawf sydd mewn gwirionedd wedi brwydro'n arwrol i ddarparu gwasanaethau da mewn cyfundrefn amhosibl. Y cwmnïau adsefydlu cymunedol a sefydlwyd ledled y DU—ac, wrth gwrs, yng Nghymru roedd Working Links yn rheoli'r rhan honno o'r gwasanaeth, ac mewn gwirionedd fe ddaethon nhw i gwrdd â ni yma yn y Cynulliad ar y dechrau a cheisio ein hargyhoeddi y bydden nhw'n mynd ati mewn ffordd newydd sbon danlli ac y bydden nhw mor llwyddiannus, ac roedd pob un ohonom ni'n teimlo'n amheus iawn ac fe ddigwyddodd yn union yr hyn yr oeddem ni'n ei ofni. Mae wedi bod yn drychineb.
Rwy'n credu bod yr ymdrechion hyn i wthio'r gwasanaeth prawf i fodel sy'n seiliedig ar y farchnad wedi bod yn gwbl drofaus ac yn gwbl anaddas ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus o'r math hwn. Felly, rwyf yn gobeithio y gallwn ni sicrhau y ceir gwasanaeth prawf mwy cydgysylltiol. Byddai'n braf meddwl y gallai pawb ddod yn ôl at ei gilydd yng Nghymru o dan yr un to, gan weithio gyda'r trydydd sector, gyda'r cyrff gwirfoddol, a chyda threfniant partneriaeth cynhyrchiol fel y gallwn ni sicrhau bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, sef y rhai mewn carchardai, yn cael cymorth a chefnogaeth, yn ogystal â chyflawni eu dedfryd ar gyfer yr hyn y maen nhw wedi'i wneud, gyda'r ffaith eu bod yn cael cymorth fel na fyddan nhw yn troseddu eto.
Rwy'n credu bod y gwasanaeth carchardai a'r hyn sy'n digwydd i droseddwyr yn gwbl hanfodol i bob un ohonom ni, ac mae'n arwydd o ba fath o gymdeithas ydym ni— sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn trin ein carcharorion a sut yr ydym ni'n mynd i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cyfrannu yn y dyfodol at ein cymdeithas, a gwyddom y gellir gwneud hynny os yw'r mewnbwn hwnnw ar gael ac os yw'r gefnogaeth honno ar gael, fel y gallai'r gwasanaeth prawf ei wneud ar un adeg. Rwy'n gobeithio, o dan gynlluniau'r Gweinidog, y bydd gennym ni wasanaeth prawf sy'n ffynnu yma yng Nghymru unwaith eto.