7. Dadl: Diwygio'r Gwasanaeth Prawf

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 23 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 6:03, 23 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mae'r gwasanaeth prawf yn rhan hanfodol o'r system cyfiawnder troseddol ac yn debygol o ddod yn bwysicach fyth yn y dyfodol wrth i'n carchardai ddod yn gynyddol fwy gorlawn. Mae carchardai Cymru yn gweithredu ymhell y tu hwnt i'w capasiti, gan arwain at orlenwi difrifol, sy'n andwyol i garcharorion a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw—y swyddogion carchar. Gall carchar weithio, ond mae'n gweithio dim ond gyda'r adsefydlu priodol, ac mae'r gorlenwi presennol yn rhwystro staff carchardai rhag adsefydlu eu carcharorion yn effeithiol. Yn ogystal ag adeiladu carchardai newydd yn lle ein carchardai hynafol Fictoraidd sy'n prysur ddadfeilio, mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod adsefydlu yn parhau pan fydd troseddwr yn gadael gatiau'r carchar a bod dull addas i ymdrin â throseddwyr risg isel pan nad eu hanfon i'r carchar yw'r ateb. Y gwasanaeth prawf dylai fod y dull hwnnw. Ond, yn anffodus, mae ymdrechion traed moch Chris Grayling i ddiwygio wedi troi'r gwasanaeth prawf yn destun cywilydd cenedlaethol. Hoffwn weld datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Mae ein carchardai yn orlawn o bobl na ddylen nhw fod yno: rhai sy'n dioddef o afiechyd meddwl, cyn-filwyr sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma y mae'r system wedi cefnu arnyn nhw, a'r rhai hynny sydd wir angen lloches. Mae'r holl bobl hyn wedi eu siomi gan wasanaeth prawf diffygiol. Canfu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ddiffygion difrifol yn y ffordd yr oedd Llywodraeth y DU wedi agor y gwasanaeth prawf i gwmnïau preifat a'r trydydd sector. Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar weddnewid adsefydlu wedi tynnu sylw at fethiannau difrifol mewn monitro cwmnïau ailsefydlu cymunedol, sy'n golygu nad oedd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder unrhyw ffordd o wybod sut yr oedd y cwmniau adsefydlu cymunedol yn perfformio.

Mae cwmnïau adsefydlu cymunedol yn gyfrifol am 80 y cant o waith y gwasanaeth prawf, ac eto mae llawer yn methu â darparu unrhyw ddata perfformiad, yn dewis a dethol pa droseddwyr y byddant yn eu monitro, ac yn cael eu talu ni waeth pa un a oedden nhw mewn gwirionedd yn lleihau aildroseddu ai peidio. Beirniadwyd diwygiadau Grayling yn hallt iawn hefyd gan Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin, a ddaeth i'r casgliad ei bod hi'n annhebygol y gallai'r diwygiadau fyth sicrhau gwasanaeth prawf effeithiol. Nid yw hi'n syndod bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder wedi penderfynu diwygio'r gwasanaeth prawf.

Rwy'n croesawu'r ffaith y caiff diwygiadau eu gwneud yn raddol erbyn 2020. Fel yr amlygodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, cafodd natur frysiog y diwygiadau cynharach effaith enfawr ar y gwasanaeth, gan roi straen ar staff, gweld darpariaethau technoleg gwybodaeth annigonol, ac esgeulustod. Mae angen rheolaeth briodol ar gwmnïau preifat sydd â rhan mewn monitro ac adsefydlu troseddwyr, ac mae angen iddyn nhw gyflawni canlyniadau, nid gwneud elw yn unig. Mae'n rhaid iddyn nhw gael adnoddau priodol ar gyfer lles a diogelwch pawb. Byddwn hefyd yn hoffi gweld mwy o gyfranogiad gan y sector gwirfoddol.

Mae peth rhinwedd i benderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyfuno swyddogaethau'r gwasanaeth prawf cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd hyn yn gweithio. Un o'r beirniadaethau mawr o'r gwasanaeth prawf cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol oedd iddyn nhw fethu â sicrhau tai i gyn-droseddwyr pan eu bod yn gadael carchar, sy'n aml yn gallu arwain at aildroseddu. Pan yr oeddwn i'n gweithio yn y gwasanaeth carchardai, gwelsom lawer o bobl ifanc yn aildroseddu dim ond i gael to uwch eu pennau a phrydau bwyd rheolaidd, ac mae hyn yn gywilyddus. Os gallwn ni sicrhau bod y gwasanaeth prawf newydd i Gymru wir yn integreiddio gyda'r sector cyhoeddus, ei fod wir yn  cynnwys y sector gwirfoddol, a bod ganddo'r adnoddau priodol mewn gwirionedd, yna mae'r rhagolygon ar gyfer cyfraddau aildroseddu yng Nghymru yn dda. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio'n agos i sicrhau bod gennym ni wasanaeth prawf sydd wir yn gweithio ar gyfer Cymru.