Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 24 Hydref 2018.
Rydw i wedi sôn yn y Siambr yma o'r blaen, wrth gwrs, am sut mae Plaid Cymru am weld sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru, a fyddai'n cynorthwyo â'n nod ni o sicrhau bod cymaint o drydan ag sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Nawr, mae hynny'n uchelgeisiol, ond mae hynny hefyd yn bosib. Mae gwledydd eraill yn symud yn llawer cynt na ni ar yr agenda yma. Mae'r Almaen, er enghraifft, wedi ymrwymo erbyn 2050 i sicrhau bod 80 y cant o'u holl ynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy ac, yn fwy na hynny, erbyn yr un flwyddyn, ei bod hi'n torri defnydd ynni mewn adeiladau 80 y cant, ac yn creu miliynau o swyddi, ac yn ychwanegu at ei GDP. Mae'n rhaglen drawsnewidiol sydd, wrth gwrs, yn dangos y ffordd ymlaen i nifer ohonom ni. Mae'n werth edrych hefyd ar sut mae rhywle fel Wrwgwái, sydd â phoblogaeth ddim yn annhebyg i Gymru, wedi llwyddo i sicrhau, mewn cyfnod o lai na 10 mlynedd, fod 95 y cant o'i trydan yn dod o ynni adnewyddadwy gan, wrth gwrs, leihau ei hôl-droed carbon, ond hefyd lleihau biliau i'w phobl ar yr un pryd. Felly, maen nhw wedi dangos, gyda gweledigaeth ac arweiniad penderfynol, fod modd gwneud cynnydd sylweddol a sydyn tuag at economi carbon isel.
Rydw i'n credu'n gryf hefyd mewn rhoi'r gymuned yng nghalon polisi ynni. Rydw i wedi siarad sawl tro am yr angen i symud i ffwrdd o'r model hub and spoke yma o gynhyrchu ynni mewn pwerdai mawr sydd wedi'u canoli ac yna trosglwyddo'r ynni yna ar hyd a lled y wlad drwy grid sy'n hynafol, yn aneffeithlon ac yn gostus. Mae angen inni symud i fodel o gridiau lleol, clyfrach, gyda'r ynni yn cael ei gynhyrchu yn nes at le mae e'n cael ei ddefnyddio—yn y gymuned gan y gymuned—a rhwydweithiau sy'n fwy effeithlon, yn cynnig mwy o gydnerthedd, wrth gwrs, sy'n llai hagr ar y dirwedd hefyd, sydd yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn gyson yn y Siambr yma, ac yn rhatach hefyd o ran cost cynnal a chadw.
Nawr, mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn un peth, ond, fel soniais i yn gynharach, mae angen lleihau defnydd ynni hefyd, ac mae hynny'n greiddiol i'r dasg sydd o'n blaenau ni. A gydag aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario 80 y cant o'u costau ynni ar wresogi ystafelloedd a dŵr yn y cartref, yna mae cryfhau safonau effeithlonrwydd ynni tai newydd, a gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai presennol ni drwy ôl-ffitio, yn gwbl, gwbl allweddol. Mi wnes i ymhelaethu ychydig ar hyn yn y ddadl flaenorol, felly fe wnaf i ddim ailadrodd. Ond tra bod cynlluniau fel Arbed a Nyth yn cyfrannu, yn sicr, i'r dasg yma, cyfraniadau cymharol fychan ydyn nhw. Yn sicr, nid ydyn nhw nunlle yn agos at faint yr her sydd yn ein hwynebu ni, a lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn gwirionedd. Dyna pam, wrth gwrs, fel roeddwn i'n esbonio gynnau, fod yna ymrwymiad wedi bod ym maniffesto Plaid Cymru i fuddsoddi biliynau o bunnoedd dros ddau ddegawd i gwrdd â'r her yna drwy gomisiwn is-adeiledd cenedlaethol i Gymru. Dyna lefel yr uchelgais sydd ei hangen.
Mae'r cynnig yn cyfeirio at waharddiad ffracio. Rydw i'n cofio, yn fy nghyfnod blaenorol fel llefarydd y blaid ar y maes yma, mewn neges fideo, yn dweud bod angen i ddau beth ddigwydd i ni fedru gwireddu gwaharddiad go iawn ar ffracio yng Nghymru: yn gyntaf, bod y pwerau yn cael eu datganoli i ganiatáu i ni wneud hynny, ac, yn ail, bod y Cynulliad hwn yn ewyllysio i hynny ddigwydd. Wel, mae'r darnau hynny bellach yn eu lle, ac er gwaethaf moratoriwm nad oedd yn foratoriwm—ac mi ddywedaf i hynny tra byddaf i; rydw i'n gwybod bod y Llywodraeth yn anghytuno, ond nid oedd e'n foratoriwm—mae hi yn dda gweld y Llywodraeth nawr yn symud, gobeithio, i'r cyfeiriad o gael gwaharddiad go iawn yn y pen draw.
Mae trafnidiaeth yn faes y gad pwysig arall yn y frwydr i leihau allyriadau carbon, ac, os oes un achos eiconig a fydd yn brawf litmws i'r Llywodraeth yma, yna'r penderfyniad ynglŷn â llwybr du'r M4 fydd hwnnw. Nawr, mae un o'm cyd-Aelodau yn mynd i ymhelaethu ar hyn mewn munud, ond mi fyddai palu ymlaen gyda'r llwybr du yn golygu mwy o gerbydau ar ein ffyrdd a llai o debygrwydd y bydd Cymru yn cwrdd â'i thargedau newid hinsawdd. Fe gawsom ni gadarnhad ddoe gan arweinydd y tŷ y byddai'r bleidlais yn un ymrwymol, ond, wrth gwrs, beth mae nifer o bobl, byddwn i'n tybio, ar feinciau cefn y Llywodraeth eisiau gwybod yw a fydd honno yn bleidlais rydd, oherwydd mi fyddai penderfyniad gan y Cynulliad yma i beidio â bwrw ymlaen gyda'r llwybr du ac i fuddsoddi mewn opsiynau amgen yn ddatganiad clir ein bod ni'n gwbl o ddifri ynglŷn â rôl Cymru wrth daclo allyriadau a newid hinsawdd. A dyna'r neges hefyd, wrth gwrs, a fyddai'n cael ei hanfon yng nghymal 6 ein cynnig ni, sef bod Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn dod yn rhan o'r symudiad byd-eang i ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Byddai hynny'n arwydd o’r cydgyfrifoldeb sydd gennym ni oll i daclo newid hinsawdd.
Fe wnaf i gloi am y tro jest drwy wneud un pwynt olaf. Rŷch chi'n gwybod, yn y gorffennol, fod pobl wedi cysylltu lleihau allyriadau gyda, rywsut, gorfod cyfyngu ar dwf a chynhyrchiant—ei fod e'n rhwystr i dwf busnes. Wel, ystyriwch yr ystadegyn yma: yn y cyfnod y mae Prydain wedi lleihau allyriadau 40 y cant, mae cynhyrchiant a thwf—productivity and growth—wedi codi 70 y cant. Nawr, mae hynny'n dangos yn glir y gallwn ni ddatgysylltu twf oddi ar allyriadau. Nid yw un yn gorfod mynd law yn llaw gyda'r llall rhagor, fel yr oedd, wrth gwrs, flynyddoedd yn ôl.
Mae'r OECD wedi dweud y bydd gweithredu ar newid hinsawdd yn hwb i dwf economaidd, nid yn unig wrth osgoi effeithiau newid hinsawdd, ac mae yna gost sylweddol i'r effeithiau hynny, wrth gwrs, ond hefyd wrth fuddsoddi mewn technolegau glân, effeithlon, arloesol, newydd. Meddyliwch am ôl-ffitio tai fel un enghraifft: creu swyddi ac arbedion economaidd ar un llaw; creu manteision cymdeithasol ar law arall, drwy daclo tlodi tanwydd; a chreu manteision amgylcheddol amlwg wedyn drwy leihau allyriadau. Mi fydd arloesedd a thechnoleg yn ein helpu ni i fynd ymhellach ac ymhellach yn y blynyddoedd i ddod wrth i ddatblygiadau newydd gyflymu'r broses honno.
Felly, tra mai newid hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw—her sy'n dod â bygythiadau difrifol eithriadol—er mwyn peidio â gorffen ar nodyn rhy negyddol a chalon drom, mae angen inni gofio bod taclo newid hinsawdd yn dod â chyfleoedd gydag ef hefyd, nid dim ond y cyfleoedd amlwg amgylcheddol, ond rhai economaidd a chymdeithasol. Ond, yr hyn y mae'r cynnig yma yn ei gwestiynu mewn difri yw: i ba raddau yr ydym yn barod i wynebu'r her honno, ac i ba raddau yr ydym yn barod i afael yn y cyfleoedd hynny? Mae'r neges yn glir gan yr IPCC. Nid ydym ni ddim yn pasio'r prawf ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i Gymru godi ei gêm, neu ein plant ni, wrth gwrs, fydd yn talu'r pris.