7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:20, 24 Hydref 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae trafod y tywydd yn rhywbeth rŷm ni, fel Cymry, wrth ein boddau yn ei wneud, ac, wrth gwrs, mae 2018 wedi bod yn fodd i fyw i nifer o bobl pan fo’n dod i’r tywydd, wrth gwrs. Rŷm ni’n cofio’r eira a’r oerfel mawr ar ddechrau’r flwyddyn, y glaw di-baid yna—rŷm ni i gyd yn cofio hynny, rydw i’n siŵr, yn y gwanwyn—haf crasboeth, wedyn—un o’r poethaf ar record—ac, wrth gwrs, storom Callum yn yr hydref yn dod â gwerth mis o law mewn dim ond deuddydd. Wrth gwrs, ar draws y byd, mae’r stori’r un fath, gydag enghreifftiau cynyddol o dywydd eithafol, ymhlith arwyddion eraill bod yr hinsawdd yn newid.

Nawr, ychydig o wythnosau yn ôl, fe gyhoeddwyd adroddiad arbennig y panel rhyngwladol ar newid hinsawdd, yr IPCC, ac nid jest unrhyw adroddiad arall i ddwyn ambell i bennawd rhad oedd hwnnw, ond pen llanw gwaith a gafodd fewnbwn gan filoedd o wyddonwyr hinsawdd o ar draws y byd i gyd. Mae’r neges yn yr adroddiad hwnnw’n gwbl glir: mae amser yn rhedeg allan. Mae amser yn prinhau i wneud y newidiadau i’r ffordd rŷm ni’n byw, y ffordd rŷm ni’n cynhyrchu ac yn defnyddio ynni, y ffordd rŷm ni’n symud o gwmpas y ddaear yma, y ffordd rŷm ni’n adeiladu a chynhesu ein cartrefi, yn defnyddio’n hadnoddau naturiol. Oherwydd mae’r trajectory rŷm ni arni o ran cynhesu byd eang yn golygu os na fyddwn ni’n newid ein ffordd, mi fydd yr oblygiadau’n niweidiol ac yn eithafol—nid dim ond mwy o lifogydd, ond gwladwriaethau cyfan yn mynd o dan ddŵr oherwydd codiad yn lefel y môr; nid dim ond mwy o sychder, ond mwy o newyn ar lefel ryngwladol yn dod yn ei sgil; diflaniad eang o rywogaethau ac amgylchedd llawer mwy gelyniaethus i fywyd ar y ddaear yma.

Nawr, casgliad yr adroddiad, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i Lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd Celsius. Nid oes dim amheuaeth erbyn hyn, yn fy marn i, mai hon yw’r her fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Rŷm ni oll yn cofio, wrth gwrs, y trafod yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd ym Mharis yn 2015 fod yn rhaid cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2 radd Celsius ac y dylid ymdrechu i gadw e o dan 1.5 gradd. Wel, yr hyn mae adroddiad yr IPCC yn ei ddweud wrthym ni bellach yw bod cynhesu byd-eang yn debygol o gyrraedd 1.5 gradd Celsius rhwng 2030 a 2052 os yw’n dal i gynyddu ar y raddfa bresennol. Byddai pob elfen leiaf o gynhesu y tu hwnt i hynny, wedyn, wrth gwrs, yn dod â risg o newidiadau hirdymor a di-droi nôl, gydag ecosystemau cyfan yn cael eu colli.

Nawr, yr hyn nad yw’r adroddiad yma’n ei wneud i’r un graddau, wrth gwrs, yw amlinellu’n union beth sydd angen i bob un ohonom ni geisio ei gyflawni er mwyn gwireddu’r newid sydd ei angen—mater i gymdeithas yn ehangach yw hynny. Mae gennym ni, fel gwleidyddion, wrth gwrs, rôl allweddol wrth greu’r amgylchedd arall hwnnw—yr amgylchedd bolisi a’r amgylchedd gyllido a fydd yn ysgogi a hwyluso llawer o’r newid sydd angen ei weld.

Mae ein cynnig ni heddiw yn nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fan hyn yn y Cynulliad wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru’n debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020. Diben y cynnig yma, felly, yw i alw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau breision y byddan nhw’n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad yr IPCC. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn achub ar y cyfle i amlinellu ambell i beth rŷm ni fel plaid yn teimlo sydd eu hangen—dim y cyfan, wrth gwrs; yn bell o hynny—fel rhan o’r trawsnewidiad sydd ei angen yn wyneb yr heriau newid hinsawdd yma sydd o’n blaenau ni. Maen nhw’n cynnwys, wrth gwrs, gweithredu o ran ynni, gweithredu o ran trafnidiaeth, tai a rhai o’r sectorau sy’n cyfrannu fwyaf at allyriadau carbon.

Nawr, mae angen taclo ynni o ddau gyfeiriad, wrth gwrs—yn gyntaf, lleihau’r defnydd o ynni ac yna cynyddu’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Fe wnaeth pwyllgor cynaliadwyedd y Cynulliad diweddaf, yn ei adroddiad 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru', alw am greu targedau blynyddol i leihau'r galw am ynni, ac mae'n siomedig nad yw hynny wedi derbyn ymateb positif. Fe wnaeth hefyd alw am fwy o help i bobl ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, ac fe wnaf i ymhelaethu ychydig ar hynny mewn munud.