7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:05, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Y pwynt allweddol yma yw mai 3 y cant o'r holl garbon deuocsid yn yr atmosffer a gafodd ei achosi gan bobl mewn gwirionedd. Felly, rydym yn sôn am rifau hynod o fach yma. Mae'r DU yn cyfrannu 2 y cant o'r carbon deuocsid a achoswyd gan bobl yn fyd-eang. Nid yw'r carbon deuocsid ei hun ond yn cyfrannu 3 y cant o'r carbon deuocsid byd-eang, sydd ynddo'i hun ond yn cyfrannu 5 y cant yn unig o effaith nwyon tŷ gwydr. Rydym yn sôn am ffracsiynau hynod o fach o 1 y cant o'r carbon deuocsid yn yr atmosffer. Felly, hyd yn oed pe baem yn gallu gweithredu'r holl fesurau a grybwyllir yn adroddiad yr IPCC, mae'r tebygolrwydd y bydd yn cael unrhyw effaith fesuradwy ar dymheredd yn eithriadol o fach. Felly, y brif neges rwyf am ei chyfleu heddiw yw hon: hyd yn oed pe bai yna gysylltiad, y cred rhai sy'n anghytuno â mi ei fod yn bodoli, rhwng cynnydd yn y tymheredd byd-eang a charbon deuocsid, mae costau cyflawni'r hyn y dymunwch ei wneud yn andwyol a bydd yr effeithiau'n ddibwys mewn gwirionedd.