Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 24 Hydref 2018.
Os gwrandawn ar y rhai sy'n gwadu bodolaeth newid hinsawdd ar yr asgell dde eithafol, byddwn yn gwneud cam â chenedlaethau'r dyfodol. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am hynny. Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu'r blaned hon, ac mae'n hynod frawychus fod pobl yn barod i wadu hynny.
Yn ôl yn 2011, cynhyrchais y Cynllun Gwyrdd ar gyfer y Cymoedd. Nawr, rhaglen yw hon ar gyfer adfywio ein cymunedau anghofiedig sydd wedi cael cam drwy sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd gyda gwaith cydweithredol a all arwain at ganlyniadau cynaliadwy. Pe baem wedi gweithredu'r cynigion yn y cynllun gwyrdd, byddem yn llawer agosach at gyrraedd lle mae angen inni fod o ran economi gynaliadwy. A gadewch inni fod yn glir yma: nid yw ymdrin yn iawn â newid hinsawdd yn golygu tincera ar yr ymylon. Nid yw hynny'n mynd i wneud unrhyw beth. Rydym wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd bellach. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dim llai na newid trawsnewidiol. Mae angen inni newid y sail sy'n pennu beth yw diben ein heconomi. Nid yw'n bodoli er mwyn y sefydliadau corfforaethol neu'r elît neu'r pwerau byd-eang. Dylai'r economi fod wedi'i llunio mewn modd sy'n darparu ar gyfer pobl, a dylai sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwarchod y blaned rydym yn byw arni, a dylem fyw o fewn ein modd yn ecolegol. Ond fel y dywed Raymond Williams wrth agor y cynllun gwyrdd,
Mae polisi economaidd a fyddai'n dechrau gyda phobl go iawn mewn lleoedd go iawn, ac a fyddai'n cael ei gynllunio i gynnal eu bywydau i'r dyfodol, yn galw am newid mawr yn ein ffordd o feddwl.
Yn wir, mae'n galw am newid mor fawr yn ein ffordd o feddwl fel nad ydym wedi llwyddo i'w wneud eto, ond mae'n rhaid inni ei wneud. Rhaid inni gael cynllun economaidd sydd â datblygu cynaliadwy ac nid twf anghynaladwy yn ganolog iddo, gan ddefnyddio adnoddau naturiol helaeth Cymru i bontio i economi nad yw'n ddibynnol ar danwydd ffosil mwyach.
Felly, beth y gallem fod yn ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn? Mae yna bethau y gallwn i gyd eu gwneud fel unigolion: gallwn hedfan yn llai aml, gallwn fwyta llai o gig, gallwn feicio mwy, ond mae arnom angen mwy o weithredu cymdeithasol a llywodraethol hefyd. Gallem wneud cymaint mwy i gymell cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy fentrau cydweithredol ar raddfa fach neu fentrau cymdeithasol. Gwelodd y Sefydliad Materion Cymreig y gallai £4.6 biliwn o fuddsoddiad mewn cynhyrchu trydan adnewyddadwy, ynghyd ag £1.2 biliwn mewn effeithlonrwydd ynni domestig, greu tua 4,500 o swyddi mewn cyfnod o 15 mlynedd o fuddsoddi. Gallem wneud hyn drwy gwmni ynni cenedlaethol, a gallem edrych hefyd ar gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol fel ffynhonnell ar gyfer buddsoddiad o'r fath. Mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru ar hyn o bryd yn buddsoddi dros £1 biliwn mewn tanwydd ffosil sy'n difetha'r hinsawdd. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr ac mae'n rhaid iddo ddod i ben.
Rwyf am gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy dynnu sylw at y problemau gyda ffracio. Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i wahardd ffracio yng Nghymru, a barn Plaid Cymru yw y dylai wahardd ffracio cyn gynted â phosibl. Clywsom yn gynharach yr wythnos hon am ddigwyddiad seismig maint 0.4 ar raddfa Richter ger Blackpool lle mae Cuadrilla yn ffracio am nwy mewn craig siâl. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynghylch mathau eraill o ffracio, oherwydd mae'n rhaid inni symud y tu hwnt i'n dibyniaeth ar danwydd ffosil. Felly, dylid cynnal yr egwyddor ragofalus i rwystro'r risg y byddai ffracio'n ei hachosi i Gymru. Ac yn anad dim arall, rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth hon yn gweithredu i atal ffracio ac na fydd yn gweld y cynnig o swyddi neu gil-dwrn gan gwmnïau ffracio fel esgus i ganiatáu iddo ddigwydd. Yn rhy hir, mae ein hawch i gael swyddi neu gyllid wedi ein harwain i dderbyn prosiectau nad ydynt yn ddymunol ac ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd gyda ffracio. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd, ac os ydym am wrando ar y rhybuddion yn adroddiad diweddaraf yr IPCC y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ac eraill atynt, rhaid inni newid y ffordd yr edrychwn ar swyddi a'n heconomi fel nad ydym yn parhau i dderbyn manteision tymor byr sy'n creu risg o boen yn fwy hirdymor.