Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 24 Hydref 2018.
Credaf ei bod yn amlwg fod y blaned mewn perygl, Ddirprwy Lywydd, ac mae barn mwyafrif helaeth y wyddoniaeth a'r gwyddonwyr ar y materion hyn yn gwneud hynny'n glir. Dyna pam y mae'r IPCC wedi dweud bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn gynharach ac yn gyflymach na'r disgwyl a bod gennym 12 mlynedd i atal y newid peryglus yn yr hinsawdd a bod rhaid i Lywodraethau weithredu camau radical ar unwaith i'w atal. Yn y math hwnnw o gyd-destun, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r pwyllgor newid hinsawdd adolygu allyriadau yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod yn chwarae ein rhan i gyfyngu'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i 1.5 gradd, oherwydd bod difrifoldeb y sefyllfa'n mynnu hynny.
Felly, mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth, Ddirprwy Lywydd, ac y gallwn ei wneud fel unigolion ac y gall sefydliadau ei wneud, ac mae'n her i bob un ohonom, onid yw? Nid her i Lywodraeth Cymru'n unig yw hi, mae'n her i bob un o Aelodau'r Cynulliad, y pleidiau gwleidyddol a'r Aelodau annibynnol yma heddiw. Er enghraifft, pe baem yn edrych ar gymorth amaethyddol ar ôl Brexit, ceir rhai materion anodd i bleidiau gwleidyddol. O ran rheoli tir a chymorth amaethyddol, gwyddom fod angen rhoi'r amgylchedd ar y brig i raddau llawer helaethach nag sydd wedi digwydd hyd yma wrth inni symud ymlaen, a bydd hynny'n creu anawsterau i bleidiau gwleidyddol, rwy'n credu, o ran y lobïo arnynt a rhai o'r etholaethau y maent yn eu cynrychioli. Felly, bydd angen penderfyniadau dewr o ran y materion hynny.
Yn amlwg, ceir penderfyniadau anodd i Lywodraeth Cymru, ac un yr hoffwn dynnu sylw ato, a amlygwyd yma heddiw eisoes, yw trafnidiaeth, oherwydd mae trafnidiaeth yn rhan bwysig iawn o'r darlun cyffredinol. Gwyddom ei bod yn gwbl bosibl cael system drafnidiaeth sy'n llawer mwy integredig na'r hyn sydd gennym yma yng Nghymru oherwydd mae nifer o wledydd eraill wedi llwyddo i wneud hynny. Yn amlwg, ni fyddwn yn cyrraedd yno dros nos, ond mae'r metro, er enghraifft, yn un enghraifft o sut y gallwn wneud cynnydd pwysig ac arwyddocaol, ac rwy'n gobeithio gwneud hynny o fewn y cyfnod o amser o 12 mlynedd y mae'r IPCC yn ei nodi. Felly, gallem roi mwy o adnoddau tuag at y metro na'r hyn a gynlluniwyd ar hyn o bryd, a gallem ei adeiladu'n gyflymach pe baem yn gwneud penderfyniad, er enghraifft, i roi'r adnoddau a glustnodwyd ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd tuag at y system metro yn lle hynny. Buaswn yn cefnogi hynny'n bendant iawn. Gwelsom yr adroddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud pwyntiau pwysig iawn. Rydym yn aros am adroddiad yr ymchwiliad, ond bydd gennym benderfyniadau anodd i'w gwneud—pob un ohonom a Llywodraeth Cymru—yn eithaf cyflym ar y mater pwysig hwnnw. Credaf y bydd yn dangos pa mor ddifrifol rydym ni ynglŷn â rhoi camau eofn, radical ac effeithiol ar waith i ymdrin â heriau newid hinsawdd.
Hoffwn weld teithio llesol yn cael mwy o flaenoriaeth fel rhan bwysig iawn o'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom mewn perthynas â thrafnidiaeth i wneud i bobl gerdded a beicio mwy. Hoffwn ein gweld yn gwneud 20 mya yn derfyn cyflymder diofyn ledled Cymru, gyda'r gallu i awdurdodau lleol gyflwyno gorchmynion traffig 30mya wedyn ar ffyrdd trefol mewnol fel eithriadau yn hytrach na'r arfer. Mae hynny'n mynd i arwain at feicio a cherdded mwy yn yr ardaloedd hynny ac unwaith eto, bydd yn rhan o'r ymagwedd honno tuag at drafnidiaeth integredig, ac yn rhan o'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom.
Hefyd, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gytuno fy mod yn credu bod gan Gaerdydd, fel ein prifddinas, gyfrifoldeb i fod yn esiampl wirioneddol dda, fel y mae dinasoedd yn ei wneud mewn mannau eraill. Credaf fod Caerdydd ar y daith honno. Mae ganddi lawer mwy o ardaloedd 20 mya bellach. Mae ganddi lawer mwy o feicio, a cherdded yn wir. Mae ganddi gynllun beiciau, a gwn ei bod yn ystyried camau radical ar gyfer lleihau nifer y teithiau cerbydau ar y ffyrdd yng Nghaerdydd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gweld y camau radical hynny ar waith cyn bo hir. Felly, mae'n berffaith bosibl ymateb i'r heriau hyn, Ddirprwy Lywydd, ond mae'n her fawr i Lywodraeth Cymru, i bob un ohonom, i'n hawdurdodau lleol, i'n prifddinas, i bob sefydliad a phob unigolyn yn ein gwlad.