Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 24 Hydref 2018.
Mae yna sawl trywydd y buaswn i'n gallu mynd ar ei ôl o heddiw yma. Roedd sylwadau Llyr Gruffydd ynglŷn â'r cyfleon economaidd a fyddai'n dod o ddatblygu diwydiannau gwyrdd a buddsoddi mewn 'retro-osod' offer arbed ynni mewn tai, ac ati, yn rhywbeth sy'n apelio ataf i, ac yn rhywbeth y gwnes i siarad amdano fo pan oeddwn i'n dal y rôl economi yn y Cynulliad diwethaf, ond mi ydw i am ganolbwyntio, os caf i, ar drafnidiaeth yn benodol.
Mi ddywedodd pwyllgor newid hinsawdd y Cynulliad yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru yn wynebu'r her benodol yma sydd yn deillio o nifer o allyrwyr mawr o garbon deuocsid yng Nghymru. Felly, meddai'r pwyllgor,
'mae angen gwneud y mwyaf o effaith ymyriadau i leihau allyriadau mewn meysydd eraill, megis trafnidiaeth'.
Ac mae o hefyd yn enwi tai. Hynny ydy, mae mynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth yn rhywbeth rydym ni'n gallu ei wneud yma yn y byd datganoledig sydd gennym ni, felly mae angen sicrhau ein bod ni’n gwthio i’r eithaf y potensial sydd o’n blaenau ni. Mi oedd trafnidiaeth, yn 2014, yn cyfrif am 12.77 y cant o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru, ond dros 21 y cant o’r allyriadau o fewn cymhwysedd datganoledig. Hynny ydy, y pethau rydym ni’n gallu gwneud rhywbeth amdanyn nhw, ac mae trafnidiaeth yn un o’r rheini.
Mae adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig ar ddad-garboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru yn dweud bod Cymru’n fwy dibynnol ar y car nag unrhyw genedl neu ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig. Ac mae hynny’n datgan yn glir fod yn rhaid inni wneud rhywbeth am hyn ac mae’n rhaid inni chwilio am y newid modal yma. Rydym ni’n gwneud llawer o siarad amdano fo, ond yn methu ag ennill digon o dir arno fo mewn gwirionedd o ran mynd i’r afael â’r broblem rydym ni’n ceisio ei thaclo—yn y modd mwyaf sylfaenol, cael pobl allan o’u ceir ac ar eu beiciau neu ar eu traed. Mae gennym ni Ddeddf teithio llesol, ond nid ydym yn gweld y buddsoddiad yn mynd i mewn i gefnogi’r ddeddfwriaeth yna y dylem ni fod yn ei weld. Rydym ni’n gweld mai tua £10 y pen y flwyddyn sy’n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar deithio llesol, lle mae pwyllgor economi’r Cynulliad wedi argymell gwariant o rhwng £17 ac £20 y pen y flwyddyn. Oes, mae’n rhaid i bobl gael eu perswadio i newid eu diwylliant eu hunain o ran y ffordd maen nhw’n mynd o A i B, ond gadewch inni roi’r anogaeth yna drwy fuddsoddi yn yr isadeiledd sydd yn gwneud hynny gymaint yn haws. Nid oes ond angen inni edrych ar y system beiciau newydd Nextbike yng Nghaerdydd. Mae buddsoddiad wedi mynd i mewn yn y man yna, ac mae pobl yn defnyddio’r beiciau yna, a minnau yn eu plith nhw. Mae yna synnwyr yma yng Nghaerdydd fod yna, go iawn, deimlad o newid tuag at deithio llesol. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd ar draws Cymru, nid dim ond yn ein prifddinas ni.
Mae’n rhaid inni symud pobl i fysys. Mae’r un adroddiad y gwnes i gyfeirio ato fo’n gynharach gan y Sefydliad Materion Cymreig yn adrodd bod gwasanaethau bysys yng Nghymru wedi bod mewn dirywiad difrifol dros dymor hir. Mae’n rhaid inni wyrdroi hyn. Rydym ni’n gwybod am y llefydd lle rydym ni angen buddsoddi mewn rheilffyrdd. Mae'n gywilydd bod Llywodraeth Prydain wedi peidio â buddsoddi a dim ond wedi trydaneiddio’r rheilffordd ar draws y de. Mae’n gywilydd nad ydy trydaneiddio ar draws y gogledd hyd yn oed ar yr agenda, mewn difrif. Mi ddylwn ni fod yn siarad o ddifrif, bob un ohonom ni, fel rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei wneud, am wneud y cysylltiad rheilffordd yna i fyny’r gorllewin—nid yn unig o Gaerfyrddin i Aberystwyth, ond wedyn o Aberystwyth drwodd i Fangor. Ydyn, mi ydym ni eisiau agor y rheilffordd sydd ar draws Ynys Môn. Hynny ydy, mae’r prosiectau yma i gyd yno ond inni gael yr uchelgais i fynd ar eu holau nhw. Os edrychwch ar—ac roeddem ni’n trafod hyn mewn cwestiynau yn gynharach yma—ar y £100 biliwn sy’n cael ei wario ar HS2 yn Lloegr a meddwl beth y gallem ni ei wneud am gyfran fechan iawn, iawn, iawn o’r cyfanswm yna.
Mi gyfeiriaf i’n sydyn at yr M4. Rydym ni’n cytuno mai gwastraff a denu pobl i ddefnyddio’u ceir yn fwy ydy mynd am y llwybr du. Oes, mae eisiau ateb ar gyfer y de-ddwyrain, rwy’n cydnabod hynny, ac mae’n rhaid inni fod yn glyfar yn y ffordd rydym ni’n ateb y pos yna o gwmpas y twneli Bryn-glas.