– Senedd Cymru am 5:36 pm ar 24 Hydref 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Sayed i siarad ar bwnc a ddewiswyd ganddi—Bethan.
Diolch. Penderfynais gyflwyno'r ddadl hon yr wythnos hon oherwydd fy mod wedi bod yn ystyried y cwestiwn ehangach ynglŷn ag ansawdd a lluosogrwydd cyfryngau Cymru ers cael fy ethol yn 2007. Yn 2017, dywedais wrth gynhadledd fy mhlaid nad newyddion ffug yw'r broblem yng Nghymru yn aml iawn, ond dim newyddion. Dywedais hynny oherwydd ei fod yn adlewyrchu fy marn i a sawl un arall fod yna brinder cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig yn y byd gwleidyddol a materion cyfoes. Mae diffyg cyfryngau sefydledig ehangach—gyda newyddion cenedlaethol yng Nghymru yn cael ei ddominyddu gan dri sefydliad, gydag amrywio o ran ansawdd a graddfa ar adegau, gadewch i ni fod yn deg—yn golygu bod gwactod peryglus y gellid ei lenwi gan rai sy'n meddu ar agenda i gamarwain.
Yn gyntaf, gadewch inni sôn am y cefndir i hyn. Wrth gwrs, daeth hyn yn ffenomen gyntaf yn 2016, ond buaswn yn dadlau iddo ddod yn fater y gellid ei ddeall a'i adnabod lawer cyn hynny. Dechreuodd Fox News yn yr Unol Daleithiau gamarwain pobl yn fwriadol a chyflwyno newyddion a alwent yn 'deg ac yn gytbwys' mewn ffordd sy'n gwbl groes i hynny amser maith yn ôl. Yn y flwyddyn 2000, helpodd ymgyrch barhaus o gamwybodaeth yn erbyn yr Is-Arlywydd Gore, yn cynnwys honiadau a ailadroddwyd yn fynych, rhai camarweiniol mai ef a ddyfeisiodd y rhyngrwyd, i gyfrannu at ei drechu.
Yn y cyfnod cyn rhyfel Irac, collodd y sianel bob synnwyr o gydbwysedd a hyd yn oed y ffasâd o natur ddiduedd yn ei darllediadau o'r rhyfel yn Irac, gydag un gohebydd yn datgan, 'A wyf fi'n rhagfarnllyd? Siŵr iawn fy mod.' Yma, wrth gwrs, rydym wedi hen arfer â phapurau newydd tabloid ac wedi dod i arfer â'r angen i gymryd rhai straeon gyda'r pinsiad diarhebol o halen. Rydym yn gwybod, ar adegau, fod papurau tabloid yn camliwio a hyd yn oed yn mynd ati i ddweud anwiredd a difenwi pobl er mwyn hyrwyddo agenda wleidyddol.
Yr hyn sy'n fy mhoeni, ac a ddylai boeni pawb, yw'r gwagle sy'n cael ei lenwi ar-lein gan ffynonellau. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn gwybod pa mor eirwir yw'r ffynhonnell, nid oes ganddynt unrhyw syniad fod yr hyn y maent yn ei rannu'n dod o wefan anghyfreithlon, debyg i bot ac maent yn rhagdybio bod yr hyn y maent yn ei ddarllen yn wir. Hoffwn roi dwy enghraifft ingol i chi—un yn enghraifft o'r adain chwith ac un o'r adain dde yn wleidyddol. Dewisais y ddwy enghraifft am nad wyf am wahaniaethu yma. Os yw'r adain dde yn gwneud camgymeriadau neu'n llunio straeon ffug er mwyn cyflawni agenda, mae'n anghywir, mae'n ddrwg. Ac os yw'r chwith yn gwneud yr un peth, mae'r un mor anghywir. Mae'n ymosodiad ar y gwir ac yn ymgais i ddrysu a chamarwain pobl.
Dyma ddarn o'r hyn yr honnir ei fod gan gyn-Brif Weinidog Awstralia, Julia Gillard, ar fewnfudo, a dyfynnaf:
EIN GWLAD NI, EIN TIR NI, a'n FFORDD O FYW NI yw hon, a byddwn yn caniatáu pob cyfle i chi fwynhau hyn oll. Ond pan fyddwch wedi rhoi'r gorau i gwyno, nadu a grwgnach am Ein Baner, Ein Llw, Ein credoau Cristnogol, neu Ein Ffordd o Fyw, rwy'n eich annog yn gryf i fanteisio ar un agwedd arall ar ryddid Awstralia, 'YR HAWL I ADAEL'.
Twyll yw hyn, wrth gwrs, rhan o erthygl olygyddol ydyw gan gyngreswr Ceidwadol yn yr Unol Daleithiau. Pwynt twyll mor ddigywilydd o'r fath yw helpu i gyfreithloni safbwyntiau fel hyn trwy eu cysylltu ag arweinydd byd-eang. Cafodd y geiriau hyn, wedi'u priodoli i Gillard, eu rhannu gannoedd o filoedd o weithiau.
Ffotograff yw fy ail enghraifft, o brotestiadau Standing Rock yng Ngogledd Dakota yn 2017 yn ôl pob golwg. Y nod oedd atal pibell rhag cael ei hadeiladu ar draws tiroedd brodorol cynhenid America gan fygwth eu hamgylchedd a'u cyflenwadau dŵr. Penderfynodd rhai ymgyrchwyr yn amlwg y byddai'n dda chwyddo maint y protestiadau a chyhuddo'r cyfryngau o beidio â rhoi sylw iddynt. Yr hyn a wnaethant oedd sefyll mewn ffotograff o brotest Standing Rock gyda ffotograff o ŵyl Woodstock yn 1969 yn nhalaith Efrog Newydd—miloedd o filltiroedd a 48 mlynedd allan ohoni. Unwaith eto, mae'r sail dros weithredu'n glir: sut y gallwn ddrysu pobl fel nad ydynt yn deall beth yw gwir natur eiliad benodol mewn amser? Nid plygu'r gwir yn unig, nid gorddweud, ond twyllo. Po fwyaf a mwyaf beiddgar yw'r celwydd, mae'n debyg, y pellaf y mae'n ymddangos y gall deithio. Mae'n sefyllfa wirioneddol druenus, heb sôn am un sy'n peri pryder mawr.
Mae angen trafodaeth gyhoeddus fwy dwys a difrifol ar yr holl fater, a rhaid inni ganolbwyntio ar rai atebion posibl. Yn gyntaf, rhaid inni wneud lle a helpu i hwyluso adferiad yn y wasg leol a newyddion lleol. Gall gwasanaethau hyperleol, a gefnogir yn gyntaf gan y Llywodraeth os oes angen, ddarparu ateb amgen effeithiol a dibynadwy, a helpu pobl i ddychwelyd at yr arferiad o gydnabod ffynhonnell newyddion y gellir ymddiried ynddi. Rydym eisoes yn gwybod bod llawer mwy o ymddiriedaeth mewn newyddion lleol nag mewn unrhyw fath arall o newyddion, a cheir llawer llai o ymddiriedaeth mewn newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd 59 y cant o'r bobl a holwyd ar gyfer baromedr ymddiriedaeth Edelman yn 2018 eu bod yn ansicr beth o'r hyn a welant yn y cyfryngau sy'n wir a beth nad yw'n wir, a dywedodd bron i saith o bob deg eu bod yn poeni bod newyddion ffug yn cael ei ddefnyddio fel arf. Dim ond un o bob pedwar o bobl Prydain sy'n ymddiried yn y newyddion a welant ar y cyfryngau cymdeithasol, tra bo ymddiriedaeth mewn newyddion lleol dair gwaith yn fwy na Facebook.
Fel rhan o'r fargen ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, daethom i gytundeb i ddarparu £200,000 mewn cyllid sbarduno i wasanaethau hyperleol; cam cyntaf pwysig. Mae'n rhan o gael trafodaeth onest yma yng Nghymru, trafodaeth sydd mor brin mewn cyfryngau lluosogaethol, i weld a ydym yn ystyried bod newyddion a materion cyfoes yn hanfodol i'n bywyd dinesig. A ydym yn gweld newyddion a'r cyfryngau fel endid masnachol arall a dim mwy na hynny, neu fel rhywbeth sy'n allweddol i iechyd ein democratiaeth a'n cymdeithas? A ydym am fentro dechrau cael trafodaeth ehangach ynglŷn ag a ydym am ddechrau cynnig cyllid ehangach ar gyfer newyddiaduraeth a chyfryngau annibynnol, yn enwedig ar lefel leol? Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i wneud mewn gwledydd eraill fel mater trafod. Nid yw'n gyfan gwbl y tu hwnt i fod yn dderbyniol, ac efallai y bydd angen iddo fod yn angenrheidiol.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn galw ers amser hir hefyd am ddatganoli pwerau darlledu a mecanweithiau rheoleiddio eraill mewn perthynas â'r cyfryngau. Pe bai'r pwerau hynny yma, gellid ystyried atebion sy'n iawn ar gyfer y wlad lle ceir diffyg amgylchedd cystadleuol ymhlith cyfryngau newyddion lluosogaethol. Felly, siarter efallai i ddarparu fersiynau Cymreig o bapurau newydd, cam yn agosach efallai tuag at amgylchedd cyfryngol mwy cystadleuol. Un diwrnod, gobeithio y gallem gael yr holl ddarlledwyr i roi'r gorau i osod eitemau megis straeon y GIG o Loegr ar frig eu hagenda newyddion yn y DU. Rwy'n galw'r math hwn o beth hefyd yn newyddion camarweiniol, ond mae'n ymddangos fel pe bai'n cael ei dderbyn yn y wlad hon.
Rwy'n credu y byddai hyn yn dechrau llenwi'r gwactod yng Nghymru cyn i newyddion ffug allu symud i mewn ar lefel Cymru. Fodd bynnag, yn fwy cyffredinol, ceir problem fawr ar lefel fyd-eang. Nid yw'r atebion i fynd i'r afael â hi'n hawdd, er y gallwn gael cysur o'r wybodaeth nad oes cymaint â hynny o bobl yn credu'r wybodaeth a welant ar-lein o reidrwydd. Yr her hefyd yw gwella dryswch ar-lein fel y gall mwy o bobl nodi'n fwy clir beth sy'n ffug a beth sy'n real, beth sy'n ddadansoddiad newyddiadurol teg a gwrthrychol a beth sy'n ddarn o waith gan haciaid a ysgrifennwyd ar sail agenda. Mae'n hanfodol hefyd ein bod yn gwahaniaethu rhwng newyddiadurwyr go iawn a sylwebyddion gwleidyddol gweddus, a dylanwadwyr sy'n hyrwyddo ffantasi gelwyddog.
Crisialwyd yr her ym mis Tachwedd y llynedd, pan gyfeiriodd y Daily Mail at drydariad 10 diwrnod oed, heb unrhyw dystiolaeth, am lori'n taro cerddwyr a thanio gwn yng nghyffiniau Oxford Circus yn Llundain. Eto heb unrhyw dystiolaeth, cyfeiriodd Tommy Robinson fel y'i gelwid at yr erthygl a thrydar
Pa mor hir cyn inni ddarganfod mai Mwslim a gyflawnodd yr ymosodiad heddiw yn Oxford Circus?
Felly, mae angen darganfod pwy sy'n ddilys ac yn ddylanwadwyr go iawn a/neu'n newyddiadurwyr a phwy sydd ddim. Rhaid inni ddechrau mynnu cydymffurfiaeth â safonau ffynonellau newyddion papurau tabloid a'r rhai sydd â theyrngarwch gwleidyddol penodol. Pan fo anwiredd yn digwydd, dylai fod yn gyfrifoldeb i ni fel gwleidyddion, ni waeth beth yw ein safbwynt ar y sbectrwm gwleidyddol, i'w ddwyn i gyfrif er lles democratiaeth.
Ond rhaid cael gweithdrefnau mwy cadarn ar waith, gan ddefnyddio a hyrwyddo ein cyrff gwarchod presennol i wneud eu gwaith, a gallu ei wneud yn fwy effeithiol. Dylem hyrwyddo'r rhai sydd â graddau da mewn newyddiaduraeth ac sydd wedi'u hachredu gan y diwydiant. Dylem ddefnyddio a hyrwyddo Sefydliad Safonau Annibynnol y Wasg i sicrhau tegwch ehangach, a'i hyrwyddo fel lle i gwyno am ffynonellau camarweiniol. Rhaid i hyn fod yn rhan o raglen addysg ehangach o amgylch safleoedd dilys y gellir ymddiried ynddynt a ffynonellau newyddion, gan annog y defnydd o wirwyr ffeithiau i ehangu dealltwriaeth, er enghraifft.
Buaswn yn gobeithio hefyd y gallwn annog mwy o ddefnydd o newyddion yn gyffredinol fel hyn. Rwy'n deall ein bod yn byw mewn cyfnod pan fo cyfryngau cymdeithasol yn tra-arglwyddiaethu, ond rydym hefyd mewn cyfnod sy'n cael ei ddominyddu ar lawer ystyr gan fyd sy'n newid yn helaeth. Byddai'n werth defnyddio'r cyfle hwn i annog mwy byth o gyfranogiad.
Felly, cyflwynais y ddadl hon yma heddiw oherwydd bod angen inni gadw ffocws ar yr hyn sy'n fygythiad cynyddol. Gwyddom fod gweithredwyr tramor yn defnyddio'r strategaethau hyn i danseilio etholiadau a newid y ddadl gyhoeddus. Er nad yw'r rhan fwyaf o bobl o reidrwydd yn credu'r hyn a ddarllenant ar Facebook neu rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae'r straeon sy'n cael eu pedlera, y memynnau, y sylwadau gan botiau, oll yn rhan o amgylchedd cyffredinol o ddryswch ac ymyrraeth seicolegol a gynlluniwyd i sicrhau ein bod yn amau gwerth newyddion ac yn cwestiynu'r hyn a gredwn, er mwyn ein gorfodi i ystyried a yw'r sefydliadau rydym wedi ymddiried ynddynt erioed, ar hyd ein hoes, yn rhoi dadansoddiad a sylwebaeth fedrus i ni. Mae hyn yn rhywbeth sy'n fy mhoeni'n fawr iawn yn hynny o beth.
Mae un pwynt olaf i'w wneud. Rhaid i hyn gynnwys gwleidyddion hefyd. Mae'r ffenomen ofnadwy hon yn eang bellach, yn rhannol oherwydd bod gwleidyddion wedi helpu i'w meithrin. Mae rhai gwleidyddion wedi mynd ati'n fedrus, ac ar adegau mewn ffyrdd amrwd, i droi rhannau mawr o'r cyhoedd yn erbyn newyddiadurwyr y gellir ymddiried ynddynt, a thuag at ffynonellau anghymeradwy sy'n rhannu eu hagenda, boed yn Trump yn yr UDA, Orbán yn Hwngari neu'r Arlywydd Duterte yn Ynysoedd Philippines. Rhaid i wleidyddion a systemau gwleidyddol gydnabod eu hunain pa bryd y maent yn croesi'r llinell i dir twyll a chamarwain, a sicrhau eu bod yn gweithredu er lles ein democratiaeth.
I orffen, hoffwn chwarae clip byr yn awr gan fy mrawd, Ciaran Jenkins, sy'n newyddiadurwr ymchwiliol gyda Channel 4. Mae wedi gwneud cryn dipyn o ohebu ar hyn yn Ynysoedd Philippines a hefyd mewn rhannau o Ewrop, lle mae bechgyn ifanc yn gwneud bywoliaeth mewn gwladwriaethau tlawd wrth sicrhau y gallant barhau'r syniad o newyddion ffug. Felly, hoffwn orffen gyda hynny ac i roi digon inni gnoi cil arno ynglŷn â sut y gallwn atal newyddion ffug rhag tyfu yma yng Nghymru.
Ciaran Jenkins: 'Yn Ynysoedd Philippines a stori anhygoel yr arlywydd a etholwyd yn ddemocrataidd, Rodrigo Duterte. Lladdwyd miloedd o bobl ar strydoedd Ynysoedd y Philippines, ac maent yn dal i gael eu lladd, gan sgwadiau lladd vigilante, a gyfreithlonwyd gan yr arlywydd ei hun. Ac eto, yn y wlad honno, ychydig iawn o anghytuno cyhoeddus a fu i'r hyn oedd yn digwydd, er bod mwy o bobl wedi'u lladd o dan ei oruchwyliaeth ef nag o dan yr unben blaenorol. Daeth yn amlwg fod y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn Ynysoedd Philippines ymhlith yr uchaf yn y byd, a gwelsom bobl yn cynnig gwasanaethau am dâl lle gallent fwrw iddi i danseilio neges y byddai rhywun dylanwadol yn anghytuno â hi. Byddinoedd o droliau cyfryngau cymdeithasol oedd y rhain a gâi eu talu i ymosod ar ddylanwadwr cyfryngau cymdeithasol ar yr ochr arall gyda'r nod o danseilio eu hygrededd, er mwyn rhoi'r argraff fod gwrthwynebiad i'r neges honno ac i hyrwyddo neges amgen, hyd yn oed os oedd y neges honno'n eithafol neu'n wahanol iawn i'r consensws cyffredinol.'
'Mae gennych droliau yn gweithio i chi.'
Ciaran Jenkins: 'Mae Armand Nocum yn dweud bod ganddo weithredwyr ar draws Ynysoedd Philippines yn rheoli 30 neu 40 o gyfrifon ffug bob un.'
'Felly, os wyf yn ymgeisydd gwleidyddol yn Ynysoedd Philippines a fy mod yn dweud rhywbeth yn erbyn eich ymgeisydd, a fydd eich troliau'n ymosod arnaf?'
Ciaran Jenkins: 'Meddylfryd heidiol.'
'Byddem yn naïf, rwy'n credu, pe na baem yn credu bod y mathau hyn o bethau'n digwydd o fewn ein systemau democrataidd ein hunain hefyd. Yr hyn a oedd gan y ddwy stori a oedd gennyf yn gyffredin yw eu bod yn dangos y dulliau sy'n ei gwneud hi'n bosibl tanseilio ffydd y cyhoedd mewn ffeithiau a'r gwirionedd a realiti. Rwy'n credu mai'r cwestiwn sy'n rhaid inni ei ofyn bob amser gyda newyddion ffug yw: pwy sy'n ennill, pwy sy'n elwa pan fo perthynas pobl â'r gwirionedd yn cael ei thanseilio mewn modd mor sylfaenol?'
Wel, galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl—Dafydd Elis-Thomas—ac efallai i’r ffilm hefyd.
A gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno pwnc mor athronyddol, sydd yn rhoi cyfle i mi barhau’r seminar o bosibl? Oherwydd, yn amlwg, fel Llywodraeth, mae ein pwerau ni dros y cyfryngau yn gyfyngedig gan ddeddfwriaeth datganoli. Nid wyf eisiau mynd yn ôl i’r ddadl dros ddatganoli darlledu, ond y rheswm yn fy marn i dros beidio â dadlau dros ddatganoli darlledu ydy byddem ni wedyn yn sôn am geisio rheolaeth a fyddai o bosibl yn rhyw fath o ffug reolaeth neu'n rheolaeth gyfyngedig dros un llwyfan, tra rwy’n meddwl ei bod yn bwysig inni edrych—fel rydym wedi cael ein hannog i edrych gan Bethan Sayed yn y ddadl yma—ar y cwestiynau sylfaenol ynglŷn â dinasyddiaeth a chyfranogaeth sydd yn rhan o’r cwestiwn yma.
Mae’r cyfryngau o fewn unrhyw gymdeithas yn fodd i gynnal trafodaeth, a lle mae’r cyfryngau yna yn cael eu rheoli gan unrhyw leiafrif o unrhyw fath—lleiafrif pwerus yn rhinwedd strwythur y sefydliadau sydd yn rheoli’r cyfryngau, neu er enghraifft, fel y gwelsom ni tua’r diwedd yna, o bobl a oedd yn ddrwgweithredu mewn gwirionedd drwy ddefnyddio a phrynu pobl i danseilio barn—mae’r tueddiadau yma yn dueddiadau nad oes, yn fy marn i, ddim ond un ffordd ymarferol i ni fel Llywodraeth o geisio eu tanseilio nhw. A hynny yw drwy gynyddu y pwyslais ar addysg adeiladol ym maes cyfryngau ac ym maes deallusrwydd cymdeithasol o beth yw natur y cyfryngau torfol.
Fe fues i, flynyddoedd yn ôl, yn dysgu yn y maes yma ac rwy’n meddwl ein bod ni wedi colli y pwyslais sylfaenol yn aml iawn, sef nad ydym ni yn addysgu’r boblogaeth sut i ddarllen y cyfryngau torfol yn ddigonol. Nid yw’r pwyslais yn ein hysgolion ni, nag yn ein cyrsiau ni, nag o bosibl hyd yn oed mewn llefydd fel y fan yma lle rydym ni’n trafod gwleidyddiaeth. Efallai bod ni ddim yn trafod digon fod dealltwriaeth yn dibynnu ar allu yr unigolyn a’r grŵp penodol y mae rhywun yn rhan ohono fo i allu dadansoddi’r hyn sy’n cael ei ddweud.
Felly, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i’n ei ffeindio hi'n anodd iawn fel rhyw fath o gyn athronydd rhan amser i ymateb i ddadl lle mae rhywun yn gallu sôn am 'y gwirionedd' neu am 'y realiti' neu am 'y digwyddiadau', oherwydd fel yr adroddwyd nhw fel y digwyddon nhw. Oherwydd, i mi, mae pob digwyddiad yn cael ei gyfryngu. Mae pob digwyddiad yn cael ei ddehongli. Felly, beth mae eisiau i ni helpu i'w greu yw poblogaeth weithredol sydd yn gallu dadansoddi yn eu meddwl, sydd yn teimlo cyn gynted ac y maen nhw’n cael gosodiad ger eu bron nhw, am unrhyw ddigwyddiad, mai’r cwestiwn nesaf sy’n codi yw: beth ddigwyddodd mewn gwirionedd? Nid bod rhywun yn gallu ffeindio’r gwir, oherwydd nid oedd y person, efallai, sydd yn cael y neges ddim yn rhan o’r digwyddiad ac felly nid oes tyst yn yr ystyr yna, ond bod rhywun yn magu deallusrwydd beirniadol. Rwy’n meddwl bod hynny yn ganolog i’n dealltwriaeth ni.
Ac, felly, beth rydw i am ei gymryd o'r drafodaeth yma ydy'r angen i ni, fel Llywodraeth—ac mae hwn yn fater nid jest o ran diwylliant a'r cyfryngau, ond hefyd yn arbennig o ran cwricwlwm ac addysg—ein bod ni yn chwilio i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r dibenion sydd yn y cwricwlwm newydd i Gymru fel y bydd ein plant a'n pobl ifanc ni yn ddinasyddion sydd yn ystyriol o ran moesegaeth ac yn gallu gwerthuso, ac yn gallu defnyddio tystiolaeth, ac yn gallu bod yn ddinasyddion beirniadol oherwydd yr unig wir yn fy marn i—a fi ddefnyddiodd y gair yna rŵan fy hun—yr unig ffordd effeithiol, ddylwn i ddweud, i ymateb i unrhyw ffug newyddion yw drwy ddadansoddi beth yw digwyddiad a beth yw dealltwriaeth o ddigwyddiad.
Gwendid y gair 'ffug newyddion', wrth gwrs, yw ei fod o'n awgrymu bod yna'r fath beth â newyddion sydd yn wir ac sydd ddim yn ffug. Mae pob newyddion yn ddisgrifiad o ddigwyddiad, ac felly mae'n rhaid i ni fagu'r deallusrwydd yna i weld drwy'r hyn a ddigwyddodd ac i fod yn ystyriol ac yn feirniadol. Mae deall cyfrifoldebau ac hawliau democrataidd yn golygu bod yn rhaid inni ddeall bod rhagfarnau'n digwydd yn gyson mewn cymdeithas, a bod yn rhaid inni hefyd allu dadansoddi'n rhagfarnau ein hunain, ac, felly, wrth wneud hynny—. A wyt ti eisiau ymyrryd?
Rydw i'n dilyn gyda chryn ddiddordeb llinyn y Gweinidog. Gan dderbyn, wrth gwrs, fod yna'r fath beth â fersiynau gwahanol o'r gwir, a ydyw ef yn derbyn, yn yr achos yma, wrth gwrs, y gwahaniaeth ydy bod yna bobl yn fwriadol yn mynd ati i gyfleu'r wybodaeth y maen nhw eu hunain yn gwybod nad sydd yn wir?
Ie, wel, mi allai rhywun ddadlau bod llawer iawn o'r cyfryngau torfol wedi bod yn gwneud ar hyd y blynyddoedd yr un math o beth. Hynny yw, nid wyf i'n credu y gall rhywun ddibynnu ar ddadansoddi cymhelliad unigolyn, ond fe all rhywun ddadansoddi cymhelliad sefydliad a'r angen i greu ymateb i'r cymhelliad yna drwy greu cymuned ddadansoddol.
Felly, codi ymwybyddiaeth bod pob neges sy'n cael ei throsglwyddo ar unrhyw gyfrwng yn neges y dylai'r bobl sy'n ei derbyn hi ei chwestiynu. Mae hynny, rydw i'n meddwl, yn hanfodol i'r hyn rydw i'n ceisio ei ddatblygu.
Yn ail, hyfforddiant manwl mewn disgyblaeth casglu newyddion i ddinasyddion, yn enwedig dinasyddion ifanc, fel bod pobl yn deall natur y broses o greu newyddion, o greu'r neges, o gyfathrebu'r neges, a gweld beth ydy ystyr egwyddorion delio â gwybodaeth sydd yn glir ac yn annog dealltwriaeth.
Rydw i'n cofio, os caf i ddweud, un stori na ddylwn i ddim ei dweud, ond rydw i'n teimlo fel ei dweud hi heddiw. Roeddwn i yng nghanol rhyw drafodaeth flynyddoedd yn ôl gyda rhywun a oedd yn gweithio i gorfforaeth ddarlledu yng Nghymru, ac roeddwn i'n ceisio dadlau'r ddadl nad oedd yna ddigon o newyddion Cymreig, ac ateb y newyddiadurwr yna i mi—yn Saesneg oedd y drafodaeth:
Peidiwch â siarad â mi am newyddion, fachgen. Newyddion yw'r hyn sy'n dod i lawr o Lundain ar y weiar.
Nawr, rŵan yntê. Hynny yw, mae'n rhaid inni gael dealltwriaeth gliriach na hynny o beth yw natur creu newyddion a dadansoddi newyddion; rhannu'r gallu i fod yn greadigol ac yn feirniadol ymhlith ein pobl ifanc; ac yna, wrth gwrs, ystyried y cwestiwn a oes angen cryfhau rheoleiddio. Ond y flaenoriaeth y byddaf i'n ceisio ei dilyn ydy'r un sydd yn dilyn y drafodaeth a gafwyd yn flaenorol ar y gyllideb ddwy flynedd yn ôl, sef ein bod ni yn chwilio am ffordd o gyllido datblygiad ymarfer newyddiadurol ar lefel leol ac ar lefel leol iawn, os mai dyna yw'r gair priodol am ‘hyperleol’. Ac yna, rydw i’n meddwl bod pwysigrwydd gwariant ar hynny a phwysigrwydd datblygu creadigrwydd drwy gyfrwng y cwricwlwm cenedlaethol newydd yn ddwy ffordd y gallwn ni, fel Llywodraeth, ddylanwadu.
Nid oes gen i fawr o olwg ar yr hyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud ar hyn o bryd yn y maes yma, lle mae yna adolygiad wedi cael ei sefydlu, ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni’n dilyn hwnnw, rhag ofn y gallan nhw awgrymu rhywbeth adeiladol. Ond, beth garwn i ei weld ydy a fyddai gan y pwyllgor diwylliant ddiddordeb mewn dychwelyd at y pwynt yma yn ystod ei weithgareddau yn y misoedd nesaf, fel y gallwn ni barhau â’r drafodaeth unwaith eto. Wedi dweud hynny, rydw i yn ddiolchgar i Bethan Sayed am roi pwyslais rhyngwladol, yn ganolog, ar ein gweithgaredd fel Cynulliad, oherwydd nid jest Cynulliad i Gymru ydy’r lle yma, ond mae e’n Gynulliad i Gymru yn y byd.
Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.