2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am y defnydd cynyddol o dechnolegau digidol yn y sector cyfreithiol? OAQ52810
Rwyf wedi cyfarfod gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol ledled Cymru dros y chwe mis diwethaf, ac er bod eu defnydd o dechnolegau digidol newydd a'u defnydd ohonynt o reidrwydd yn amrywio, mae'n amlwg fod pob un ohonynt yn gweld y cyfleoedd i wella cynhyrchiant a gwella eu gwybodaeth arbenigol a'u sgiliau. Croesewir y defnydd o dechnoleg ac arloesedd yn y sector cyfreithiol.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Dywedodd llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ddiweddar nad yw proffesiwn y gyfraith yn paratoi newydd-ddyfodiaid ar gyfer realiti ymarfer cyfredol, heb sôn am y newidiadau y gallwn eu rhagweld. Rwy'n falch iawn eich bod chi a'r Gweinidog materion digidol, arweinydd y tŷ, a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gallu mynychu'r drafodaeth bwrdd crwn rwy'n ei chynnal y mis nesaf gydag ysgolion y gyfraith a'r cwmnïau cyfreithiol mawr i ystyried goblygiadau hyn ar gyfer y sector. Gwn eich bod wedi dangos llawer iawn o ddiddordeb yn y modd y gall datblygiadau mewn technoleg wella mynediad at gyfiawnder. Hefyd, a wnewch chi ystyried y goblygiadau ar gyfer y model busnes i nifer o gwmnïau cyfreithiol bach? Yn fy etholaeth i yn unig, ceir oddeutu 30 o gwmnïau cyfreithiol bach. Gallai datblygiad awtomatiaeth yn y sector yn hawdd effeithio ar y proffesiwn cyfreithiol yn yr un modd ag yr effeithiodd ar fanciau'r stryd fawr, lle cânt eu colli o'n trefi. Buaswn yn ddiolchgar pe baech yn ystyried goblygiadau hyn a sut y gallwn helpu'r sector i addasu.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. A dweud y gwir, cefais gyfarfod gyda swyddogion y bore yma i drafod y pwnc hwn, ymhlith pynciau eraill, ac mae'n amlwg, fel yr awgrymais yn fy ateb cychwynnol, fod her a chyfle technoleg i'w deimlo ar draws y sector, er bod hynny'n digwydd mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o'r sector, fel y byddech yn ei ddisgwyl.
Soniodd am y cwestiwn ynglŷn â'r angen am set sgiliau newydd, os caf ei roi felly, ar gyfer pobl sy'n mynd i mewn i'r proffesiwn, er mwyn mynd i'r afael â realiti newydd. Mae ymgyrch recriwtio ddiddorol wedi'i chynllunio mewn gwahanol gwmnïau yng Nghymru, lle mae pobl yn edrych ar lwybrau anghonfensiynol drwy'r ymarfer, yn hytrach na llwybr confensiynol y gweithiwr cyswllt a'r partner—y gallwch ddilyn llwybr sy'n datblygu eich arbenigedd ar y rhyngwyneb rhwng technoleg a chyfraith efallai. Mae hynny'n digwydd eisoes yn rhai o gwmnïau mwy o faint y ddinas yn Llundain, ond mae hefyd yn digwydd yma yng Nghymru. Credaf fod hwnnw'n ddatblygiad diddorol sy'n cydnabod rhai o'r newidiadau hyn.
Ond hefyd ceir agweddau sy'n mynd y tu hwnt i'r effaith ar y model busnes, sy'n bwysig, i mewn i realiti'r gyfraith, gyda chontractau deallus a 'blockchain' yn dod yn realiti cynyddol mewn rhai agweddau ar ymarfer. Mae hynny'n galw am ffordd wahanol iawn o ymarfer y gyfraith ynddi ei hun. Mae Comisiwn y Gyfraith yn cychwyn ar brosiect i adolygu'r gyfraith yn y maes, felly efallai y bydd gennych ddiddordeb yn hynny. Credaf mai'r neges i gwmnïau cyfreithiol ym mhob rhan o Gymru yw bod yna gyfleoedd, ond bygythiadau hefyd, i rai agweddau ar eu model busnes ac y dylent ymwneud â hynny'n weithredol ac rydym yn barod i'w cefnogi mewn unrhyw ffordd sy'n bosibl.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol.