2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch capasiti'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru? OAQ52827
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn gweithredu'n effeithiol gyda llwyth gwaith sylweddol, ond rwy'n ymwybodol fod system tribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, sy'n system lawer mwy o faint, yn gweithio ar hyn o bryd i oresgyn problemau penodol gyda chapasiti yng ngoleuni dyfarniad calonogol y Goruchaf Lys ar ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth y llynedd.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Ac fel cyn swyddog undeb llafur, gwn yn rhy dda pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth tribiwnlysoedd yn sicrhau cyfiawnder yn y gweithle i gynifer o bobl. Ac rwy'n falch iawn mai fy undeb, Unsain, a aeth â'r achos hwnnw i'r Goruchaf Lys a gwrthdroi'r system ffioedd tribiwnlysoedd hynod o anghyfiawn a oedd wedi gwadu mynediad i gynifer o weithwyr yn eu lle gwaith. Ac efallai mai'n rhannol mewn ymateb i hynny y gwelsom gymaint o gynnydd yn nifer yr hawliadau sy'n cael eu dwyn yn erbyn cyflogwyr ar draws y DU. Deallaf fod barnwriaeth ei Mawrhydi wedi dweud yn ddiweddar y bydd yn ceisio recriwtio barnwyr i ymdopi â'r llwyth achosion cynyddol yn y tribiwnlysoedd, gan gynnwys caniatáu i rai heb brofiad barnwrol blaenorol i wasanaethu mewn tribiwnlysoedd. Felly, o gofio hyn oll, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch i sicrhau y gall gweithwyr yma yng Nghymru gael mynediad amserol at wasanaethau'r tribiwnlysoedd?
Diolch ichi am y cwestiwn. Hoffwn ategu'r ffaith y credaf fod Unsain, y gwn ei bod hi wedi gweithio iddynt o'r blaen, wrth gyflwyno'r achos hwnnw yn y Goruchaf Lys, wedi gwasanaethu'r cyhoedd yn wych, ac roedd yn amlwg fod cyflwyno'r ffioedd tribiwnlys hyn wedi arwain at gau'r caead ar niferoedd mawr o anghyfiawnderau a'r gallu i'w datrys. Felly ers y penderfyniad, rydym wedi gweld cynnydd mawr iawn yn nifer y cwynion sy'n cael eu cyflwyno. Rwy'n credu bod y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu wedi cofnodi eu bod wedi derbyn dros 700 o gwynion ychwanegol yr wythnos, sy'n rhoi syniad i chi o faint y broblem.
O ganlyniad i gyflwyno'r ffioedd tribiwnlys, cafodd capasiti barnwrol y tribiwnlys ei leihau'n sylweddol. A'r hyn sy'n digwydd yn awr, fel y mae ei chwestiwn yn ei ragweld, yw ymarfer recriwtio i bob pwrpas er mwyn cyflogi barnwyr tribiwnlysoedd, yng Nghymru a Lloegr, i fynd i'r afael â'r ôl-groniad a'r llwyth gwaith yn y dyfodol. Felly, rwy'n falch fod hynny'n digwydd. Mae'n amlwg yn hanfodol cael system dribiwnlysoedd sy'n gwbl weithredol ac wedi'i staffio'n briodol i allu clywed yr achosion hynny.
Hoffwn groesawu'r ffaith hefyd fod llywydd y tribiwnlys cyflogaeth yn edrych am geisiadau gan rai heb brofiad barnwrol confensiynol. Credaf fod gan hynny botensial i agor llwybrau newydd ar gyfer recriwtio i'r rôl honno, a thrwy wneud hynny, gallai gynyddu amrywiaeth ymhlith barnwyr tribiwnlysoedd, a chredaf fod hwnnw'n amcan y byddai pawb ohonom yn awyddus i'w weld.