1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2018.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ei chyllideb ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ52851
Ni wnaeth cyllideb Llywodraeth y DU ddim byd i wella'r niwed a achoswyd gan bron i ddegawd o doriadau i'n cyllideb.
Rwyf i, fel, rwy'n siŵr, llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cael llawer iawn o ohebiaeth gan arweinyddion llywodraeth leol yn arbennig, yn fwyaf diweddar gan Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, am y pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol oherwydd canlyniadau eich cyllideb ddrafft chi a chyllideb Llywodraeth San Steffan. Fe wnaethoch, rwy'n credu, ymrwymo i'r cynghorau, rwy'n credu, fod ar flaen y ciw pe byddai unrhyw adnoddau ychwanegol i Gymru o gyllideb y DU. Pryd mae'r cynghorau yn debygol o weld yr arian yr ydych chi wedi ei addo?
Rydym ni'n gobeithio rhoi syniad anffurfiol o fewn y pythefnos nesaf. Nid yw'n wir y bydd pob un ceiniog o'r cyllid canlyniadol yn mynd i lywodraeth leol, ond maen nhw'n flaenllaw yn ein meddyliau, ac, fel y dywedais, maen nhw ar flaen y ciw. Rydym ni'n deall yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu. Bu'n rhaid i ni, wrth gwrs, wneud penderfyniadau anodd iawn o ran yr hyn nad ydym wedi gallu ei wneud, er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd y toriad i gyllid llywodraeth leol mor ddifrifol ag y gallai wedi bod fel arall, ond mae'r trafodaethau hynny yn parhau ac rydym ni eisiau gweld beth allwn ni ei wneud i helpu llywodraeth leol, er y bydd yn dal i fod yn anodd.
Wel, Prif Weinidog, o edrych ar yr ochr olau, bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn golygu y bydd £551 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru dros dair blynedd, cynnydd cyfartalog rhwng 2015 a 2020 o dros 4 y cant mewn termau real. A gaf i gyd-fynd â'r cwestiwn a'r mater a godwyd gan Helen Mary Jones am yr awdurdodau lleol? Rydym ni hefyd yn gwybod bod tua £26 miliwn o'r arian hwnnw o gyllideb y DU yn deillio o gymorth ychwanegol Llywodraeth y DU i fusnesau, gan ostwng traean ar ardrethi busnes i fusnesau â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Rydym ni'n gwybod bod busnesau Cymru wedi bod yn galw am fwy o gymorth yn y fan yma. A wnewch chi roi ymrwymiad i ddefnyddio'r arian canlyniadol hwnnw i leihau'r baich ar fusnesau Cymru ymhellach?
Wel, gadewch i ni ostwng y swm o tua £550 miliwn o gyllid canlyniadol a honnwyd yn y fan yna. Gallaf ddweud bod mwy na hanner y cyllid a gyhoeddwyd wedi cael ei gyhoeddi eisoes. Mae'n arian a wariwyd eisoes. Mae wedi cael ei wario ar benderfyniadau cyflog a phensiynau. Bu toriad o £32 miliwn o'r arian a addawyd yn wreiddiol yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y GIG yn ddeg a thrigain. Felly, mae'n golygu bod ein cyllid canlyniadol mewn gwirionedd eleni rhywle oddeutu £60 miliwn mewn refeniw a £2.6 miliwn mewn cyfalaf. Wel, diolch yn fawr iawn am hynna; mae hynna'n ardderchog. Felly, unwaith eto, enghraifft wych o sbin gan Lywodraeth y DU nad yw'n cael ei brofi gan ffigurau gwirioneddol. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw ein bod ni'n aros am union fanylion y gronfa rhyddhad ardrethi busnes a gynigir yn Lloegr, oherwydd, hyd yma, nid yw'r manylion hynny wedi eu rhoi ar gael.
Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru hanes balch o gynorthwyo busnesau bach yma yng Nghymru gyda phecyn mwy hael o ryddhad ardrethi yn gyffredinol, ac mae wedi cynorthwyo mwy o fusnesau bach nag unman arall yn y DU. Nodaf, yng nghyllideb ddiweddar y DU, bod y Canghellor wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi ychwanegol i fusnesau manwerthu bach yn Lloegr, a fydd yn golygu bod eu hardrethi yn cael eu torri gan draean am ddwy flynedd o fis Ebrill 2019. Pa ddadansoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o sut y gall ymateb i hyn i wneud yn siŵr ei bod yn dal i gynnig pecyn hael o gymorth sy'n diwallu anghenion busnesau bach yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon a ledled Cymru?
Mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu yn ystod y flwyddyn hon tua £210 miliwn o ryddhad ardrethi i gynorthwyo busnesau a thalwyr ardrethi eraill. Mae'r trefniadau rhyddhad hynny ar gael i'r holl dalwyr ardrethi hynny sy'n bodloni'r meini prawf. Rydym yn nodi, wrth gwrs, cyhoeddiad y Canghellor. Nid ydym wedi gweld eto beth fydd hynny'n ei olygu o ran cyllid canlyniadol. Nid ydym yn gwybod ychwaith sut bydd y system yn gweithio yn Lloegr. Pan fydd y manylion hynny gennym ni, wrth gwrs, gallwn roi ystyriaeth bellach i'r mater.