Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, trwy weithio, fel y dywedais, gyda'r cyngor cyllido addysg uwch, rydym ni'n asesu beth fydd yr effeithiau. Mae'n iawn i ddweud ein bod ni wedi gweld 22 y cant yn llai o bobl sy'n hanu o'r UE yn cael eu lleoli gyda darparwyr yng Nghymru ar gyfer 2018-19. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i bwysleisio'r neges bod Cymru yn agored i fusnes ac yn gyrchfan deniadol i fyfyrwyr, lle ceir prifysgolion o safon uchel, addysgu o ansawdd uchel a chostau byw fforddiadwy. Ond nid oes unrhyw amheuaeth bod teimlad ymhlith myfyrwyr nid yn unig o'r UE, ond o'r tu allan, nad yw'r DU yn groesawgar rywsut cyn belled ag y mae myfyrwyr yn y cwestiwn. Gwrandewais am flynyddoedd ar bobl o Lywodraeth India, er enghraifft, a rhai sy'n eu cynrychioli, yn dweud eu bod yn teimlo nad oes croeso i'w myfyrwyr yn y DU mwyach, ac nawr rydym ni'n gweld y diffyg croeso tybiedig hwnnw yn cael ei ymestyn i wledydd eraill hefyd. Ond, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, rydym ni'n croesawu'r disgleiriaf a'r gorau, o ble bynnag y maen nhw'n dod.