Effaith Brexit ar Recriwtio Myfyrwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:34, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gyda dim ond wythnos ar ôl i'r trafodaethau Brexit gael eu cwblhau, rydym ni'n dal i wynebu ansicrwydd parhaus ac enfawr mewn cynifer o feysydd, gan gynnwys ein system addysg uwch. Dywedir wrthyf fod ceisiadau gan fyfyrwyr UE wedi gostwng ledled Cymru, ond, i'r myfyrwyr UE hynny sy'n derbyn lleoedd ym Mhrifysgol De Cymru, sydd wrth gwrs yn cynnwys coleg Merthyr yn fy etholaeth i, mae'r ffigur tua 33 y cant. Nid oes unrhyw amheuaeth bod hyn yn mynd i effeithio ar gyllid prifysgolion a cholegau, cynaliadwyedd swyddi yn y sector ac ar lawer o economïau lleol. Felly, a ydych chi'n rhannu fy mhryderon i ynghylch y ffigurau recriwtio diweddar hyn, a beth arall allwn ni ei wneud i helpu ein sector prifysgolion drwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd?