Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Mae ffigurau swyddogol yn dangos mai ym mhrifysgolion Cymru y cafwyd y gostyngiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran nifer yr ymgeiswyr o'r Undeb Ewropeaidd rhwng 2017 a 2018. Gostyngodd ceisiadau gan fyfyrwyr o'r UE gan 10 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 2 y cant yn Lloegr a chynnydd o 3 y cant yng Ngogledd Iwerddon. O gofio y bydd Brexit yn effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan, pam mae prifysgolion Cymru wedi perfformio mor wael o ran denu myfyrwyr o wledydd yr UE o'u cymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon? A, Prif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wrthdroi'r duedd hon yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn faes datganoledig?