Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, nid oes unrhyw amheuaeth y bydd y newidiadau i'r polisi cyllid myfyrwyr wedi cael effaith. Roedd yn hael iawn, wrth gwrs, i fyfyrwyr UE; nid yw hynny'n wir mwyach yn yr un modd. Efallai'n wir bod hynny'n rhan o'r rheswm pam yr ydym ni wedi gweld gostyngiad yng Nghymru, o ystyried y sefyllfa gyda'n cyllid myfyrwyr ein hunain. Gwnaed y newidiadau hynny, wrth gwrs, yn dilyn adolygiad annibynnol. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld cynnydd i nifer yr ymgeiswyr o'r UE i brifysgolion Cymru ar gyfer cyrsiau dyddiad cau cynnar, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o gyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth—mae hynny i gychwyn astudio yn 2019. Ond, wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda'n prifysgolion er mwyn gwneud yn siŵr y deallir bod Cymru yn lle deniadol i astudio.