Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Credaf ei bod yn gywir i ddweud y bu anawsterau ariannu o safbwynt llywodraeth leol. Yr hyd yr ydym yn ceisio ei wneud a'r hyn y byddwn yn parhau i geisio ei wneud yw gweithio gyda llywodraeth leol a darparwyr eraill i sicrhau nad oes bylchau—ac mae bylchau. Mae'n wir i ddweud nad yw darpariaeth yn gyson ar draws Cymru. Nid ydym yn gyfforddus â hynny. Byddwn yn edrych yn rhan o'r adolygiad ar gydraddoldeb rhywiol sy'n cael ddatblygu gan arweinydd y tŷ a byddwn yn ystyried pa gyllid allai fod yn bosibl yn y dyfodol, o gofio'r wasgfa ariannol sydd gennym, er mwyn llenwi'r bylchau sydd wedi eu nodi yn y ddarpariaeth o wasanaeth ac y mae'r Aelod yn eu codi.