1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2018.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o dai ar gyfer plant sy'n agored i niwed? OAQ52888
Gwnaed ein hymrwymiad yn eglur gennym, ac rydym ni wedi dangos drwy ein penderfyniadau polisi ac ariannu, ein cefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac, wrth gwrs, i sicrhau bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cynorthwyo unigolion a theuluoedd i ffynnu.
Diolch, Prif Weinidog. Mae Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, wedi dweud bod y ddarpariaeth o gartrefi diogel i blant agored i niwed yn annigonol yng Nghymru. A chodwyd y mater hwn yn aml gyda'ch Llywodraeth Cymru chi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, trefnwyd 20 o leoliadau lles ar gyfer ein plant yng Nghymru, ac eto lleolwyd hanner y rhain yn Lloegr. Yn wir, adroddodd BBC Wales ar unigolyn yn ei arddegau a roddwyd mewn uned ddiogel i blant tua 250 milltir i ffwrdd o'i gartref ei hun. Prif Weinidog, nid yw hyn yn dderbyniol. Felly, pam nad yw eich Llywodraeth wedi cymryd camau yn sgil y pryderon blaenorol hyn, a beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau y gall plant agored i niwed gael mynediad at y cyfleusterau sydd eu hangen gymaint arnyn nhw a hynny cymaint yn nes at eu cartrefi o ble maen nhw'n dod?
Diffyg datganoli yw'r broblem, oherwydd, wrth gwrs, rheolir darpariaeth lles diogel ar sail Cymru a Lloegr ar hyn o bryd trwy rwydwaith o 15 o gartrefi diogel i blant. Rydym ni'n ceisio gweithio gydag Adran Addysg Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y ffordd orau i ad-drefnu'r ddarpariaeth cyfiawnder ieuenctid, ond mae hon yn enghraifft arall o pam mae angen datganoli cyfiawnder, i osgoi sefyllfa lle'r ydym ni'n gwbl ddibynnol ar adrannau yn Llundain i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Ac mae hynny'n rywbeth, yn sicr, yr wyf i'n siŵr fydd yn destun trafod dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae llai o gyllid i Cymorth i Fenywod Cymru wedi effeithio ar eu gallu i ddarparu cymorth penodol ar gyfer plant sy'n cael llety mewn lloches, a nid yw hyn yn unrhyw syndod. Ledled Cymru, bu gostyngiad o 14 y cant i gyllid ar gyfer gwasanaethau gan wasanaethau plant awdurdodau lleol a rhaglenni grant Teuluoedd yn Gyntaf. Nid yw rhai darparwyr arbenigol yn derbyn unrhyw gyllid penodol ar gyfer cymorth i blant, sy'n golygu bod plant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yn wynebu loteri cod post. O fy ngwaith blaenorol gyda Cymorth i Fenywod, gwn fod rhai o'r plant hyn wedi gweld arswyd y tu hwnt i'n dirnadaeth a gallan nhw fod wedi dioddef trawma gwirioneddol ac mae angen cymorth arnynt. Gyda hyn mewn golwg, pryd ydych chi'n mynd i ddarparu model ar gyfer cymorth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol, fel yr addawyd yn eich strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl? Os oeddech chi o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â phrofiadau andwyol yn ystod plentyndod, ac os ydych chi o ddifrif ynghylch creu gwlad ddiogel i fenywod, mae hwn yn esgeulustod difrifol y mae angen rhoi sylw iddo'n gyflym.
Credaf ei bod yn gywir i ddweud y bu anawsterau ariannu o safbwynt llywodraeth leol. Yr hyd yr ydym yn ceisio ei wneud a'r hyn y byddwn yn parhau i geisio ei wneud yw gweithio gyda llywodraeth leol a darparwyr eraill i sicrhau nad oes bylchau—ac mae bylchau. Mae'n wir i ddweud nad yw darpariaeth yn gyson ar draws Cymru. Nid ydym yn gyfforddus â hynny. Byddwn yn edrych yn rhan o'r adolygiad ar gydraddoldeb rhywiol sy'n cael ddatblygu gan arweinydd y tŷ a byddwn yn ystyried pa gyllid allai fod yn bosibl yn y dyfodol, o gofio'r wasgfa ariannol sydd gennym, er mwyn llenwi'r bylchau sydd wedi eu nodi yn y ddarpariaeth o wasanaeth ac y mae'r Aelod yn eu codi.
Diolch i'r Prif Weinidog.