Y Ddarpariaeth o Dai ar Gyfer Plant sy'n Agored i Niwed

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:14, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae llai o gyllid i Cymorth i Fenywod Cymru wedi effeithio ar eu gallu i ddarparu cymorth penodol ar gyfer plant sy'n cael llety mewn lloches, a nid yw hyn yn unrhyw syndod. Ledled Cymru, bu gostyngiad o 14 y cant i gyllid ar gyfer gwasanaethau gan wasanaethau plant awdurdodau lleol a rhaglenni grant Teuluoedd yn Gyntaf. Nid yw rhai darparwyr arbenigol yn derbyn unrhyw gyllid penodol ar gyfer cymorth i blant, sy'n golygu bod plant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yn wynebu loteri cod post. O fy ngwaith blaenorol gyda Cymorth i Fenywod, gwn fod rhai o'r plant hyn wedi gweld arswyd y tu hwnt i'n dirnadaeth a gallan nhw fod wedi dioddef trawma gwirioneddol ac mae angen cymorth arnynt. Gyda hyn mewn golwg, pryd ydych chi'n mynd i ddarparu model ar gyfer cymorth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol, fel yr addawyd yn eich strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl? Os oeddech chi o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â phrofiadau andwyol yn ystod plentyndod, ac os ydych chi o ddifrif ynghylch creu gwlad ddiogel i fenywod, mae hwn yn esgeulustod difrifol y mae angen rhoi sylw iddo'n gyflym.