1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2018.
3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yn sgil y rhybuddion gan Sefydliad Iechyd y Byd? OAQ52869
Mae mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru yn gofyn am ddull aml-agwedd. Yn rhan o'r rhaglen aer glân, mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi sefydlu prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ansawdd aer a fydd, ymhlith pethau eraill, yn ystyried cymhwysiad ymarferol canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer yng Nghymru.
Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i resynu at y ffaith bod 90 y cant o blant y byd yn anadlu aer gwenwynig erbyn hyn o ganlyniad i'n cyd-fethiant i ddiogelu ein hamgylchedd.
Rydym ni'n gwybod bod llygredd aer yn lladd mwy o bobl na damweiniau traffig ar y ffyrdd, a chyhoeddodd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ddata yn y 10 diwrnod diwethaf yn amlygu bod 57 o ganolfannau iechyd a thri ysbyty yng Nghymru sydd mewn ardaloedd sydd y tu hwnt i'r lefelau llygredd aer diogel. Yn anffodus, mae 26 ohonyn nhw yng Nghaerdydd, gan gynnwys y pump mwyaf llygredig, sydd yn fy etholaeth i, lle mae lefelau PM2.5 ymhell uwchlaw canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. A wnewch chi, fel Llywodraeth, ystyried mabwysiadu canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd fel y beibl y mae angen i ni gydymffurfio ag ef? A sut mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai hyn fod yn hysbysu papur gwyrdd Cyngor Dinas Caerdydd ar drafnidiaeth ac aer glân, sy'n ystyried, ymhlith pethau eraill, codi ffi ar bobl i ddod i mewn i ardal aer glân fel un o'r mesurau y maen nhw'n eu hystyried ?
Wel, ar 24 Ebrill, cyhoeddodd y Gweinidog becyn o fesurau a fydd yn gwella ansawdd aer ledled Cymru. Mae gennym ni raglen aer glân Cymru, y cynllun aer glân ar gyfer Cymru, cynllun atodol Llywodraeth Cymru i un y DU ar gyfer mynd i'r afael ag allyriadau nitrogen deuocsid ymyl y ffordd, ynghyd â fframwaith ardal aer glân ar gyfer Cymru hefyd. Mae'r rhain i gyd yn faterion a fydd yn helpu cyngor Caerdydd o ran datblygu ei strategaeth trafnidiaeth ac aer glân. Gwn fod y papur hwnnw wedi amlinellu'r problemau i'r ddinas wrth iddi dyfu, a'r dewisiadau posibl ar gyfer y dyfodol. Beth ydyn nhw? Wel, ceir nifer o gyfleoedd i newid trafnidiaeth yn y ddinas yn sylweddol. Mae codi ffi yn un posibilrwydd. Byddai hwnnw'n fater i'r Cyngor, wrth gwrs. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n gweld datblygiad metro de Cymru, gwelliannau o ran beicio—ac rwy'n falch o weld Caerdydd yn bwrw ymlaen â hynny'n weddol gyflym nawr—gwelliannau i'r seilwaith cerdded, ac, wrth gwrs, cyflwyniad pellach y cynllun llogi beiciau nextbike. Felly, oes, mae mwy o waith i'w wneud yn y dyfodol, ond, yn amlwg, mae cynlluniau sydd eisoes ar waith nawr a fydd yn ceisio helpu yn y dyfodol hefyd.
Prif Weinidog, mae hwn yn fater difrifol iawn. Pan roedd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn mynd ar ei hynt yn y pwyllgorau, cawsom dystiolaeth rymus iawn gan nifer o gwmnïau a sefydliadau ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â llygredd aer a sut y gallem wella ansawdd yr aer. Dewisodd eich Llywodraeth beidio â bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny, er gwaethaf rhai o argymhellion y pwyllgor. O ystyried difrifoldeb adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd, a gaf i ofyn i chi a ydych chi'n bwriadu ailystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)? Ac a wnewch chi ofyn i'ch Gweinidog adolygu, unwaith eto, y dystiolaeth a gawsom, a'r argymhellion a wnaed gennym, i weld a allai nawr fod yn adeg fwy priodol i'ch Llywodraeth weithredu?
Wel, y pryder sydd gennym ni am ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yw eu bod nhw'n gwbl seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd y cyhoedd ar lygredd aer. Popeth yn iawn. Ond nid ydyn nhw'n ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol cyflawni hynny. A dyma ble mae'n rhaid i ni gael cydbwysedd fel Llywodraeth. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, er enghraifft, y gellid gwella ansawdd aer ym Mhort Talbot yn enfawr pe na byddai gwaith dur yno, ond byddai neb yn awgrymu o ddifrif bod hynny'n rheswm, wedyn, i roi terfyn ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Ac eto, rydym ni'n gwybod y bydd y gwaith dur yn anochel—er gwaethaf, wrth gwrs, y ffaith ei fod wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd o ran lleihau ei ôl-troed carbon—bob amser yn llygrydd yn y ffordd honno. Felly, y cydbwysedd yr ydym ni'n ei geisio fel Llywodraeth, wrth gwrs, yw hyrwyddo, er enghraifft, moddau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, ac rydym ni'n gwneud hynny trwy fetro de Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol fel Caerdydd i wneud hynny. Ond, wrth gwrs, bydd—. Pe byddai'r canllawiau yn cael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru, mae'n bosibl iawn y gallai hynny greu llawer o broblemau o ran yr economi a swyddi pe na byddem yn ofalus.