Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch am yr ateb yna. Mae TAN 21, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, yn ymdrin â gwaredu gwastraff, ond, yn wahanol i gloddio glo brig, lle, ers 2009, y mae'n rhaid adeiladu pyllau glo mwy na 500 metr oddi wrth gartrefi, nid yw'n ymddangos bod rheol ar bellter llosgyddion oddi wrth tai. Mae gen i losgydd wedi'i gynllunio ar gyfer ardal Llansamlet Abertawe sy'n agos at dai ac ysgol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried pellter oddi wrth dai ac ysgolion ar gyfer adeiladu llosgyddion a diwygio TAN 21 yn unol â hynny?