Adeiladu Llosgyddion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, byddai'n rhaid cael sail wyddonol ar gyfer gwneud hynny—o ran pam byddai 500 metr yn cael effaith fuddiol. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw bod llosgi a chyd-losgi yn ddarostyngedig i ofynion diogelu llym y gyfarwyddeb allyriadau diwydiannol. Maen nhw wedi eu hymgorffori yn neddfwriaeth Cymru ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw'n cynnwys gofynion y dylai fod terfynau allyriadau llym ar gyfer sylweddau a allai lygru; ceir gofynion monitro ac amodau gweithredu sy'n cael eu cymhwyso trwy drwyddedau amgylcheddol a gyflwynir gan y rheoleiddiwr amgylcheddol. Gallaf hefyd ddweud, os oes effeithiau andwyol, wrth gwrs, ar amwynder neu'r amgylchedd, ac na ellir eu lliniaru, yna wrth gwrs, gellir gwrthod caniatâd cynllunio ar y sail honno.