Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diffyg datganoli yw'r broblem, oherwydd, wrth gwrs, rheolir darpariaeth lles diogel ar sail Cymru a Lloegr ar hyn o bryd trwy rwydwaith o 15 o gartrefi diogel i blant. Rydym ni'n ceisio gweithio gydag Adran Addysg Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y ffordd orau i ad-drefnu'r ddarpariaeth cyfiawnder ieuenctid, ond mae hon yn enghraifft arall o pam mae angen datganoli cyfiawnder, i osgoi sefyllfa lle'r ydym ni'n gwbl ddibynnol ar adrannau yn Llundain i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Ac mae hynny'n rywbeth, yn sicr, yr wyf i'n siŵr fydd yn destun trafod dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.