Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Ymddiheuriadau nad oedd Mark Reckless yn ei le. [Chwerthin.] Roeddwn wedi cymryd yn ganiataol y byddai Cadeirydd y pwyllgor safonau yn siarad yn gyntaf.
Nid oes unrhyw rybudd o'r digwyddiad hwn ar y system gyfrifiadurol sydd gennym ni yma ar gyfer yr agenda. Ni chafodd ei grybwyll fel newid i'r agenda gan arweinydd y tŷ dros dro. Cefais e-bost am 12.34 p.m. gyda dolen i agenda, gyda hon yn eitem heb rif rhwng Rhif 2 a 3. A hoffwn rannu fy mhryder ynghylch y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â hyn. Dywed y cynnig na all y comisiynydd safonau ystyried mater y gŵyn hon gan Joyce Watson ym mis Mai, na chwynion eraill sy'n ymwneud â'r un pwnc, a'r rheswm na ellir ei hystyried yw oherwydd ei fod eisoes wedi ei hystyried ac wedi penderfynu, yn ei farn ef, yn yr ystyriaeth honno, nad oedd yn haeddu ystyriaeth gan y pwyllgor safonau yn ei gyfanrwydd nac mewn adroddiad.
Nawr, wn i ddim beth yw rhinweddau'r penderfyniad hwnnw. Nid wyf wedi gweld y fideo y cwynir amdano. Y cyfan yr wyf i yn ei wybod yw bod gennym gomisiynydd safonau. Rwyf yn ei barchu ef a'i benderfyniadau, ac os yw ef wedi ystyried mater, oni ddylem dderbyn y penderfyniad hwnnw yn hytrach na chwyno amdano a rhoi pwysau arno i ail-wneud y penderfyniad hwnnw mewn ffordd wahanol, pan, mewn gwirionedd, nid yw ein gweithdrefnau'n caniatáu inni wneud hynny. Felly, rydym yn ceisio bellach cael cynnig gwahanol i ddatrys hyn drwy benodi rhywun arall i ddod i mewn a'i wneud uwch ben y comisiynydd safonau sydd eisoes wedi ei ystyried, ac rydym yn cynnig talu £392 y dydd iddo, yn ogystal â chael swyddog y wasg i ddod i mewn yn lle'r comisiynydd safonau yn y dyfodol. Dim ond cwestiynu'r ffordd y caiff hyn ei wneud wyf i. Credaf ei bod hi'n bwysig nad yw Aelodau nac eraill yn y system gyfiawnder, fel yn y system gyfiawnder y tu allan, yn dioddef erlyniad dwbl, a dim ond oherwydd bod Aelod yn amhoblogaidd, o bosibl, neu fod pobl yn arddel barn sy'n wahanol i farn y comisiynydd safonau ar rywbeth penodol mae ef eisoes wedi ei ystyried, siawns na fyddai'n well derbyn ei benderfyniad yn hytrach na cheisio ei ailagor.