Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Cytunaf yn llwyr gyda phopeth a ddywedodd Mark Reckless. Credaf fod y cynnig hwn yn codi cwestiynau sylfaenol am y broses briodol yng nghyd-destun ein pwyllgor safonau a'r ffordd y mae'n gweithio. Mae hwn yn gorff lled-farnwrol ac nid oes ganddo'r pŵer i osod cosbau ariannol na mathau eraill. Mae ganddo'r pŵer i wahardd o'r Cynulliad hwn yr ydym i gyd wedi ein hethol iddo gan y bobl y tu allan. Mae'r rhain yn bwerau difrifol iawn ac felly dylid eu harfer nhw gyda gofal, a dylai'r gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion, y sail y dylid defnyddio unrhyw gosb, fod yn deg a dylai pawb sy'n aelod o'r lle hwn ddibynnu arno, yn gyfartal, ac ni ddylid trin unigolion yn wahanol.
Nawr, mae'r cynnig hwn yn berthnasol dim ond ar gyfer un gŵyn yn erbyn un Aelod. Mae'r comisiynydd wedi ysgrifennu i ddweud nad oes darpariaeth yn y weithdrefn a bennir gan y Cynulliad i ailystyried cwyn, naill ai ar gais yr achwynydd gwreiddiol neu drydydd parti. Fodd bynnag, roedd pob un o'r ceisiadau y mae ef bellach wedi eu derbyn ynglŷn â'r mater penodol hwn yn cynnwys cwyn am y fideo, ac mae wedi penderfynu, felly, y dylid trin pob cais fel cwyn ffres. Nawr, mae hyn yn ailystyriaeth o gŵyn a ystyriwyd eisoes, nid ar sail tystiolaeth newydd anorfod, y mae'r Ddeddf erlyniad dwbl, a gyflwynwyd yn dilyn ymchwiliad Lawrence, wedi ei darparu ar ei gyfer, er enghraifft, tystiolaeth DNA nad oedd ar gael yn flaenorol. Yn yr amgylchiadau hynny, gall rhywun weld yn iawn y gallai camweinyddu cyfiawnder sy'n cynnwys troseddau difrifol megis llofruddiaeth alw am ailystyriaeth ar sail tystiolaeth newydd. Nid oes unrhyw dystiolaeth newydd yn yr achos hwn. Dim ond y fideo sydd ar gael, a mater o farn oddrychol yw'r hyn y mae rhywun yn ei feddwl ohono. Nid wyf wedi gweld y fideo ychwaith, er fy mod i fy hun wedi bod yn destun fideo o'r fath—[Torri ar draws.] Rwyf i fy hun wedi bod yn destun fideo o'r fath ar YouTube, lle rhoddwyd fy mhen yn lle pen Miley Cyrus yn 'Wrecking Ball' . Chwarddais ac anghofiais amdano; Yn sicr fyddwn i ddim yn ystyried hynny'n feirniadaeth ddifrifol sy'n haeddu ystyriaeth gan y pwyllgor safonau.
Rwyf yn credu bod erlyniad dwbl yn fater difrifol. Mae'r Deyrnas Unedig wedi cydsynio i'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol), ac mae erthygl 14.7 ohono'n dweud:
Nid oes neb yn atebol i gael ei roi ar brawf na'i gosbi eto am drosedd y mae eisoes wedi ei ddyfarnu'n derfynol yn euog neu'n ddieuog yn unol â chyfraith a gweithdrefn gosb pob gwlad.
Os caiff y cynnig hwn ei basio y prynhawn 'ma, bydd yn gwrth-ddweud rhwymedigaethau Prydain yn llwyr o dan y gofynion penodol hynny. A gwelaf gyd-gyfreithiwr yn chwerthin ar hyn, sy'n fy synnu'n fawr, a dweud y gwir, gan y gallai ganfod ei hun mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol. Os ydym am ddweud, waeth beth yw penderfyniad y comisiynydd, y gall cwynion pellach sydd yr un fath o ran ffurf gael eu hystyried a'u hailystyried yn ddi-ben-draw, yna nid oes diwedd i'r broses. Un o'r prif resymau dros gefnogi'r rheol erlyniad dwbl—