Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwy'n cytuno â pheth o'r naratif cyffredinol, hyd yn oed os wyf i'n anghytuno â'r casgliad y daw'r Aelod iddo ar rai o'r pwyntiau. Rwy'n siŵr, gyda'r adroddiad hwn—. Bydd yna gyfle i'r Llywodraeth ymddangos gerbron y pwyllgor i'w drafod, ar ryw bwynt, rwy'n siŵr. Rwy'n gweld nad yw eich cymydog yn y Siambr ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr y bydd y cymrawd Lloyd yn dymuno ystyried yr adroddiad yn fanylach.
Nid wyf yn rhannu eich barn chi na'ch datganiad y bu methiant aruthrol i gyflawni'r targedau a dyna pam y mae gennyf i'r adroddiad hwn yn y lle cyntaf. Fe wnaethom ni mewn gwirionedd symud i system wahanol ar dargedau cyn i chi gyrraedd y lle hwn, a'r penderfyniad a gymerais fel y Dirprwy Weinidog. Roedd yn her i gydnabod bod gennym ni darged amhriodol. Hyd yn oed pe byddem ni wedi cyflawni'r targed, ni fyddai wedi darparu'r gofal cywir i gleifion. Ac roedd yn farn a rannwyd yn eang o fewn y gweithlu o barafeddygon, yn enwedig; roedden nhw'n teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch gorfod ceisio cyflawni targed hyd yn oed os nad oedd yn gwneud unrhyw les i'r cyhoedd. Felly, fe wnaethom ni gynnal adolygiad; cynhaliodd yr Athro McClelland adolygiad. Wedyn gwnaethom benderfyniad i dreialu model ymateb clinigol newydd, mewn gwirionedd, ar ôl adolygiad priodol a ystyriodd, mewn gwirionedd, effeithiolrwydd yr hen darged a chynnig ffordd bosibl ymlaen, sef gwell ffordd o weithredu ein system. A dyna pam mae gennym ni darged gwahanol. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, a bellach mae gwledydd eraill y DU yn ein dilyn ni, ond nid dim ond oherwydd bod gennym ni darged gwahanol—mae'n darged mwy priodol, a dyna'r pwynt.
Pan eich bod chi'n cyfeirio at yr adroddiad, ynghylch a yw targedau yn cael eu wfftio, os edrychwch chi o ddifrif ar y cyfeiriad ato, mewn gwirionedd mae'n ystyried amseroedd ymateb fel yr unig ddangosydd o'r gwasanaeth, ac mewn gwirionedd, nid yw hynny'n ffordd briodol o edrych ar y ffordd y mae'r gwasanaeth cyfan yn darparu gofal. Unwaith eto, yr her hyd yn oed yn hynny o beth, os mai dim ond targed sy'n seiliedig ar amser sydd gennych chi, hyd yn oed os yw hwnnw'n fesur priodol ar gyfer y rhan honno o'r gwasanaeth, yw ein bod ni i gyd yn gwybod y caiff ei ddefnyddio wedyn fel ffordd o geisio barnu llwyddiant neu fethiant y gwasanaeth cyfan.
Ar eich pwynt ynghylch barn y cyhoedd, barn y cyhoedd am wasanaethau ambiwlans, wrth gwrs, yw eu bod eisiau ymateb prydlon, ond, wrth gynnal yr adolygiad annibynnol hwn, gyda chymorth gan y Picker Institute, nodwyd mai barn y cyhoedd yw bod prydlondeb yn bwysig, ond bod ymateb cywir yn bwysicach, ac mae pobl yn barod i aros cyfnod ychydig yn hwy am yr ymateb cywir. Ond nid yw hynny'n golygu bod pobl yn contractio allan i aros am ymateb hir iawn, iawn o dan yr holl amgylchiadau neu unrhyw amgylchiadau; rydym yn cydnabod bod rhai amseroedd aros yn rhy hir, a bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n siŵr y caf y cyfle hyfryd i'r Aelodau yn y fan hon neu yn y pwyllgor i graffu arnaf i weld a ydym ni mewn gwirionedd yn llwyddo i gyflawni hynny yn y dyfodol gweddol agos.